'Dim digon wedi newid' mewn 20 mlynedd o driniaethau tiwmor yr ymennydd
Mae menyw ifanc a gollodd dau aelod o’i theulu o ganlyniad i diwmor ar yr ymennydd 20 mlynedd ar wahân yn dweud ei bod yn bryderus bod “dim lot wedi newid o ran helpu pobl i oroesi'r clefyd.”
Fe gollodd Indigo Jones o Abertawe ei modryb Pamela Jenkins, a oedd yn ei 50au, ac o Bort Talbot, wedi iddi ddioddef tiwmor ar yr ymennydd yn 2003.
Dros 20 mlynedd yn ddiweddarach bu farw ei modryb yng nghyfraith, Glynwen Jones, a oedd yn ei 60au ac yn byw ar Ynys Môn, o ganlyniad i’r un math o ganser yn 2024.
Wrth siarad â Newyddion S4C fe ddywedodd Indigo, 26 oed, ei bod hi wedi “synnu” nad oedd mwy wedi newid yn ystod y cyfnod pan ddioddefodd ei dwy fodryb gyda’r clefyd.
Daw hynny wrth i Dasglu Canserau Llai Goroesadwy (LSCT) gyhoeddi ddydd Mawrth bod yna “lawer llai” o gyllid yn cael ei roi er mwyn ariannu ymchwil ar gyfer canserau “cyffredin ond llai goroesadwy.”
Mae canserau o’r fath yn cynnwys canserau’r ymennydd, yr afu, yr ysgyfaint, yr oesoffagws, y pancreas a’r stumog.
Mae'r math yma o ganser yn achosi bron i 40% o'r holl farwolaethau canser cyffredin yn y DU.
Ond maen nhw’n derbyn llai nag un rhan o bump (18.92%) o gyllid ar gyfer holl ymchwil canser, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, meddai’r tasglu.
'Dim lot wedi newid'
Yn ôl data’r sefydliad, mae tua 60% o bobl yng Nghymru sydd yn derbyn diagnosis o ganser ‘llai goroesadwy’ yn marw yn sgil eu salwch ymhen blwyddyn.
Dywedodd Indigo ei bod hi wedi tristau wrth ddysgu bod ‘na lai o gyllid yn cael ei rhoi i gefnogi pobl sydd mewn sefyllfa debyg i'w dwy fodryb.
“Ma’ fe’n upsetting, ma’ fe,” meddai.
“O edrych ar fy nwy fodryb, ‘odd na tua dros 20 mlynedd o gap rhwng y ddwy yn marw, a ‘odd e’n teimlo, i fi, bod ddim lot wedi newid o ran helpu pobl goroesi y clefyd ‘ma.
“‘Odd e’n teimlo fel doedd dim lot wedi newid.
“A fi’n credu dysgu amdano’r ffaith bod llai o gyllid, wel mae fe’n upsetting.”
Yn ogystal â cholli Pamela, sef chwaer mam Indigo, a Glynwen, sef gwraig ei hewythr Trefor Jones ar ochr teulu ei thad, fe wnaeth Indigo golli ei mam-gu, Jean Jones, y llynedd ar ôl iddi ddioddef gyda math gwahanol o ganser.
“‘Odd hwnna’n anodd yn gwylio hi yn mynd trwy’r broses o fynd trwy cemotherapi a radiotherapi,” esboniodd.
"Ond eto ‘odd e’n rili gwahanol oherwydd o’n i’n meddwl, ‘Oce mae pethau yn gallu digwydd fan hyn, it can be okay.
“With some cancers, it feels like it’s a death sentence.
“Ac ar hyn o bryd os does dim digon o arian ac ymchwil yn mynd mewn i’r mathau o gancr ‘ma, yn anffodus that’s the way it’s gonna go.”
'Siomedig ond nid syndod'
Mae dros 95,000 o bobl yn derbyn diagnosis o un o'r canserau llai goroesadwy yn y DU bob blwyddyn.
Dywedodd Cadeirydd is-grŵp Tasglu Canserau Llai Goroesi Cymru bod ‘na gysylltiad rhwng canlyniadau cleifion sy’n byw â math o ganser llai goroesadwy, gyda diffyg cyllid ar gyfer ymchwil.
"Mae'r ffigyrau a ryddhawyd heddiw yn siomedig ond nid yw'n syndod,” meddai Greg Pycroft, sydd hefyd yn Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Gofal Canser Tenovus.
“Gwyddom fod y canserau llai goroesadwy, sy'n cyfrif am gyfran sylweddol o farwolaethau canser, yn derbyn cyllid ymchwil annigonol.
“Dyna yn rhannol pam mae canlyniadau cleifion mor wael. Mae pob claf canser yn haeddu cyfle, ac mae rhagor o ymchwil yn hanfodol ar gyfer gwella diagnosis a thriniaethau."
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae ein buddsoddiad mewn ymchwil canser arloesol, sy'n cynnwys Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Biofanc Canser Cymru, a'r Ganolfan Niwrotherapiau Datblygiedig, yn parhau i gefnogi ymchwilwyr o Gymru i gyfrannu at ymdrechion y DU a'r byd i wella diagnosis a thriniaeth canser.
"Mae'r buddsoddiad yn ein gwasanaeth iechyd hefyd yn ein galluogi i greu a chyflwyno astudiaethau ymchwil ar draws ystod eang o glefydau, gan gynnwys canserau sy'n anodd eu goroesi.”
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.