Nigel Davies yn dychwelyd i'r Scarlets fel Cyfarwyddwr Rygbi

Nigel Davies

Bydd cyn Brif Hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies yn dychwelyd i'r rhanbarth tan ddiwedd y tymor fel rhan o ailstrwythuro’r rhanbarth rygbi.

Daeth cadarnhad gan y Scarlets ddydd Mawrth y byddai’r Cyfarwyddwr Perfformiad, Leigh Jones, yn gadael ei swydd ar unwaith yn dilyn adolygiad perfformiad.

Bydd Davies yn dychwelyd i'r rhanbarth mewn rôl Cyfarwyddwr Rygbi newydd tan ddiwedd y tymor, i gefnogi’r Prif Hyfforddwr Dwayne Peel.

Fe fydd yn gyfrifol am berfformiad rygbi, canlyniadau a dewis chwaraewyr, gan gynnig “arweiniad, strwythur ac aliniad ar draws rhaglen rygbi’r dynion.”

Mae’n ymuno gyda'r Scarlets ar waelod tabl Pencampwriaeth Rygbi Unedig, ar ôl ennill dwy o’u wyth gêm hyd yn hyn.

Dywedodd Nigel Davies: “Mae gan y Scarlets hunaniaeth rygbi gref a balch... ac mae’r clwb wedi’i wreiddio yng nghymunedau ledled Gorllewin Cymru.

“Mae’r gwaith caled yn parhau gyda charfan dalentog o chwaraewyr, ac rwy’n edrych ymlaen at roi fy nghefnogaeth i’r grŵp am weddill y tymor hwn.”

Mae’r rhanbarth wedi cadarnhau y bydd Peel yn parhau i arwain hyfforddi o ddydd i ddydd a pharatoi ar gyfer gemau, gan weithio’r agos gyda Davies.

Mewn cyfnod o 10 mlynedd yn hyfforddi’r Scarlets, fe wnaeth Davies arwain y rhanbarth at bencampwriaeth y Gynghrair Geltaidd yn 2003/04 a chyrraedd y rownd cyn-derfynol yng Nghwpan Ewrop ar ddau achlysur.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.