Cymraes yn lansio ap newydd i gefnogi menywod sy'n mynd drwy'r menopos

Louise Herzog gan Kamila Jarczak Photography
Louise Herzog gan Kamila Jarczak Photography

Mae menyw o Sir Fynwy yn bwriadu lansio ap newydd i gefnogi menywod sy'n mynd drwy'r menopos.

Dywedodd Louise Herzog, 46 oed, fod diffyg ymwybyddiaeth o symptomau'r menopos a'i bod eisiau defnyddio technoleg i newid hynny.

Yn y Senedd nos Fawrth, bydd y fam i ddau yn cyflwyno'r syniad i dros 80 o bobl a busnesau yn y gobaith o'u perswadio i fuddsoddi yn yr ap.

Bwriad yr ap ydy cynnig cymorth holistaidd ar gyfer y menopos drwy ddarparu gwybodaeth ac adnoddau i fenywod yn y de.

Yn y pen draw mae Ms Herzog yn gobeithio gallu cynnig yr ap i bawb yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y menopos yn "un o flaenoriaethau" eu Cynllun Iechyd Menywod.

Fe aeth llefarydd ar ei rhan ymlaen i ddweud y byddan nhw'n buddsoddi £3 miliwn yn y cynllun yma.

'Ddim eisiau i neb deimlo fel nes i'

Cafodd Ms Herzog ei hysbrydoli i ddechrau Cymuned Menopos De Cymru ar ôl iddi fynd drwy'r newid ei hun.

Dywedodd ei bod wedi dechrau profi gorbryder yn 41 oed, ond nad oedd hi'n ymwybodol ei fod yn symptom o'r menopos.

"Doeddwn i ddim rili yn gwybod beth oedd o [y menopos]. Mi nes i ddechrau defnyddio gwin jyst i drio lleddfu'r symptomau," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mi nes i ddechrau teimlo'n orbryderus, mi nes i golli bob hyder ac roeddwn i'n cael trafferth rheoli fy emosiynau.

"Roeddwn i'n flin gyda fy meibion, allwn i ddim goddef pethau, roeddwn i wedi blino'n lân."

Cymorth meddygol

A hithau gyda phrofiad o weithio fel hyfforddwr personol, fe wnaeth Ms Herzog droi at godi pwysau, gwaith anadlu a therapi dŵr oer i'w helpu.

Ond yn y pen draw dywedodd ei bod wedi gorfod talu i gael cymorth meddygol preifat er mwyn cael y feddyginiaeth yr oedd ei angen i deimlo'n well.

Dywedodd mai'r profiad "annheg" yma wnaeth ei sbarduno i ddechrau cynnal hyfforddiant menopos ar gyfer cwmnïau a chymunedau yn y de.

Blwyddyn yn ddiweddarach, mae hi'n benderfynol o greu ap ei hun er mwyn helpu mwy o fenywod.

"Dydw i ddim eisiau i unrhyw fenyw arall deimlo ar goll fel nes i," ychwanegodd.

Image
Louise Herzog gan GSD Media
Mae Louise Herzog yn benderfynol o addysgu pobl am symptomau'r menopos a sut i ddelio â nhw (Llun: GSD Media)

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, mae'r menopos yn cychwyn pan mae'r mislif yn dod i ben.

Fel arfer mae'n effeithio menywod rhwng 45 a 55 oed, ond gall hefyd ddigwydd yn gynharach.

Mae tri chwarter o fenywod yn profi symptomau'r menopos - o newidiadau corfforol fel magu pwysau, cymalau poenus a phyliau poeth, i effeithiau gwybyddol fel brain fog, sef grŵp o symptomau sy'n effeithio ar eich meddwl, eich cof a'ch gallu i ganolbwyntio.

Gall y symptomau bara saith mlynedd ar gyfartaledd ac effeithio'n sylweddol ar fywyd bob dydd.

Ond mae ymchwil yn dangos bod llai nag un o bob 10 yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i ddelio â nhw.

Doedd Caryl Thomas, 48, o Gaerdydd heb sylweddoli ei bod wedi dechrau profi symptomau'r menopos yn ystod y pandemig.

"Yn anffodus mi wnes i golli fy rhieni yn ystod y pandemig, ac am amser hir rwy’n meddwl bod galar wedi cymryd drosodd," meddai.

"Wrth i mi ddod allan o gyfnod galar dwfn iawn, roeddwn i’n disgwyl profi llai o orbryder a brain fog, ond wnes i ddim."

Image
Caryl Thomas
Dywedodd Caryl Thomas ei bod yn bwysig i gwmnïau gefnogi menywod sy'n mynd drwy'r menopos

Yn ôl y Gymdeithas Fawcett, mae un o bob 10 menyw rhwng 40 a 55 oed yn gadael swydd oherwydd symptomau'r menopos.

A hithau’n gweithio yn y maes pobl a diwylliant, mae Ms Thomas yn dweud bod angen i gyflogwyr gefnogi menywod drwy'r newid.

"Dwi’n meddwl pan fydd pobl yn codi'r menopos yn y gweithle, mae’n bwysig sicrhau bod ganddyn nhw'r gefnogaeth," meddai.

"Yn benodol bod gennym ni systemau a pholisïau da a chadarn ar waith, bod gennym ni raglen gymorth ar gael i weithwyr, bod gennym ni fynediad at gwnsela a gofal iechyd da - dw i'n meddwl bod hynny'n bwysig iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y menopos yn "un o flaenoriaethau ein Cynllun Iechyd Menywod Cymru".

"Mae’r cynllun yn nodi camau allweddol i wella'r diagnosis, y driniaeth a’r ymwybyddiaeth o gyflyrau sy'n effeithio ar fenywod," meddai.

"Bydd cyllid o £3m yn cael ei ddefnyddio i gyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun, gyda ffocws penodol ar sefydlu Hwb Iechyd Menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2026.

"Mae hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus meddygon teulu yn cynnwys y menopos, a dylai unrhyw un sydd â symptomau gysylltu â'u meddyg teulu."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.