Bronwen Lewis yn trafod diagnosis canser ei brawd bach
Mae'r gantores a'r cyflwynydd Bronwen Lewis wedi bod yn siarad o’r galon am ddiagnosis canser ei brawd bach.
Mewn cyfweliad arbennig ar S4C, mae Bronwen wedi bod yn egluro sut mae'r profiad wedi dangos iddi hi a'i theulu "beth sy'n bwysig."
Fe wnaeth ei brawd ddarganfod lwmp yn ddiweddar gan dderbyn diagnosis o ganser y ceilliau a oedd wedi lledu i’w stumog a’i ysgyfaint – newyddion a ddaeth yn “sioc enfawr” i’r teulu.
Roedd Bronwen yn siarad fel gwestai ar raglen Y Cyfweliad ar S4C, rhaglen sy'n fersiwn Gymraeg o’r gyfres The A-Talks (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel The Assembly) - lle mae grŵp o 30 o ymholwyr awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu yn holi person adnabyddus.
Yn ystod y sgwrs, mae Mair, sydd eisiau bod yn nyrs, yn gofyn i Bronwen am frwydr ddiweddar ei brawd bach gyda chanser.
Dywedodd Bronwen Lewis: “O'dd e wedi dangos i ni fel teulu beth sy’n bwysig mewn bywyd - bod yn iachus, a teulu. Mae'n bwysig iawn i roi'r amser 'na."
Fe aeth Bronwen ymlaen i egluro, fel yr hynaf o dri, bod gwylio ei brawd bach yn mynd trwy’r driniaeth yn arbennig o anodd: “Pan ti yw’r un henach, ti wastad moyn edrych ar ôl dy frawd bach.
“I glywed bod e'n mynd trwy salwch a wedyn wrth gwrs cafodd e driniaeth, a wedyn i weld e'n colli gwallt a colli lliw - o'dd hwnna'n anodd.
“Mae neb rili yn paratoi ti i weld brawd bach ti'n edrych yn llwyd a dim gwallt.”
Mae ei brawd bellach yn rhydd o ganser, ac mae Bronwen yn dweud ei bod hi wedi gwneud addewid iddo i fynd ag ef i wylio Eurovision – rhywbeth y mae’n ffan mawr ohono – a bod hynny wedi rhoi nod clir iddo ymladd y cyflwr.
“O'dd hwnna fel amcan - ac aethon ni i'r Swistir i wylio Eurovision a chael lot o hwyl."
Fe fydd y cyfweliad llawn i'w weld ar S4C ar nos Fawrth 13 Ionawr am 21.00.
