Protestiadau Iran: Dyn o Gaerdydd yn dweud fod ei gefnder wedi ei ladd

Sky News
Sky Iran

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys disgrifiad o drais a allai beri gofid i rai

Mae dyn o Gaerdydd wedi dweud fod ei gefnder 17 oed wedi ei ladd yn ystod y protestiadau diweddar yn erbyn yr awdurdodau yn Iran.

Mewn cyfweliad gyda Sky News, dywedodd Diako Haydari fod ei gefnder Amir Ali Haydari wedi ei saethu a'i guro i farwolaeth ar ôl mynychu'r protestiadau gyda myfyrwyr eraill ddydd Mawrth diwethaf.

Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Mr Haydari: "Cefais y wybodaeth ddiweddaraf gan ein teulu heddiw. 

"Cafodd ei saethu yn y galon, ac wrth iddo gymryd ei anadl olaf, fe wnaethon nhw ei daro yn ei ben â darn o'r gwn gymaint o weithiau nes bod ei ymennydd wedi'i wasgaru ar y llawr. 

"Yna, yn y marwdŷ ('morgue') lle mae'r holl gyrff, fe wnaethon nhw gyhoeddi tystysgrif marwolaeth yn dweud ei fod wedi syrthio o uchder mawr."

Dywedodd teulu'r dyn ifanc wrth Sky News fod nifer o ffrindiau Mr Haydari hefyd wedi eu hanafu yn y protestiadau:

"Mae dau o ffrindiau Amir mewn coma, ac fe laddon nhw lawer o'i ffrindiau. Yn union fel fo. Fe'u saethwyd nhw. 

"Mae llawer o ffrindiau Amir Ali wedi marw," meddai Mr Haydari. "Maen nhw'n ymosod yn greulon ar bobl oherwydd eu bod nhw eisiau tawelu llais y bobl."

Mae cannoedd o bobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn ystod y protestiadau diweddar yn erbyn llywodraeth y wlad, yn ôl adroddiadau.

Mae fideos sydd wedi cael eu cyhoeddi ar-lein yn dangos pobl ar strydoedd dinasoedd Iran, gydag adeiladau a cherbydau yn cael eu rhoi ar dân

Mewn ymateb i'r sefyllfa, sydd wedi gwaethygu dros y penwythnos, mae Llywodraeth Iran wedi gosod gwaharddiad ar systemau cyfathrebu'r wlad.

Dywedodd twrnai cyffredinol Iran, Mohammad Movahedi Azad, y byddai unrhyw un sy'n protestio yn "elyn i Dduw", trosedd sy'n cario'r gosb eithaf.

Llun: Sky News

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.