Y Llywodraeth am weld 'dweud celwydd' yn ystod ymgyrchoedd fel trosedd
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ceisio cyflwyno deddf newydd fyddai'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon i wleidyddion "ddweud celwydd" yn ystod ymgyrchoedd etholiadol y Senedd.
Os bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei phasio, bydd y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd yn medru trin datganiadau ffug neu gyhoeddiadau camarweiniol fel troseddau cyfreithiol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r bil yn deillio o "gonsensws trawsbleidiol" rhwng y pleidiau ym Mae Caerdydd.
Ond mae rhai gwleidyddion ac ymgyrchwyr wedi mynegi eu hanfodlonrwydd gyda'r cynnig, gan ddweud y byddai'n cyfyngu ar ryddid barn.
Mae'r rhai sydd yn cefnogi'r cynllun yn dadlau y byddai yn gam ymlaen i geisio adfer ymddiriedaeth a hyder mewn gwleidyddion a'r sefydliadau maent yn perthyn iddynt. Ond fydd y ddeddf ddim yn dod i rym tan o leiaf etholiad 2030. Mae rhai wedi awgrymu na fydd y dyddiad 2030 yn bosib.
Mae yna gynlluniau hefyd i roi'r gallu i bleidleiswyr gael gwared ag aelodau sy'n camymddwyn trwy bleidlais adalw hefyd sydd yn rhan o'r un gyfraith.
Fe fydd y ddeddf ddrafft yn wynebu pleidlais gyntaf yn y Senedd ddydd Mawrth.
