Marwolaeth Mabli Cariad Hall: Menyw 70 oed yn ymddangos yn y llys
Marwolaeth Mabli Cariad Hall: Menyw 70 oed yn ymddangos yn y llys
Mae menyw 70 oed wedi ymddangos yn y llys wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth babi mewn gwrthdrawiad y tu allan i ysbyty.
Fe wnaeth Bridget Curtis, 70 oed o Fegelli yn Sir Benfro, ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli fore dydd Iau wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth Mabli Cariad Hall, wyth mis oed o Gastell-nedd, drwy yrru’n beryglus.
Cafodd Curtis ei rhyddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ar 20 Medi.
Bu farw Mabli ar 21 Mehefin y llynedd mewn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwyr y tu allan i fynedfa Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro.
Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a’i throsglwyddo’n ddiweddarach i Ysbyty Brenhinol Plant Bryste, ond bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Clywodd cwest fod Mabli wedi marw o anafiadau trawmatig difrifol i'r ymennydd.
Mewn datganiad dywedodd teulu Mabli eu bod yn dal i geisio dod i delerau â’u colled:
“Dyma’r flwyddyn ddiwethaf fu’r cyfnod mwyaf erchyll yn ein bywydau.
“Mae ein bywyd teuluol wedi cael ei newid am byth a hyd heddiw rydym yn dal i geisio dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd.
“Mae pob dydd yn ddiwrnod o boen i ni, hyd yn oed nawr, ond mae’n rhaid i ni fel rhieni roi’r cariad a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar ein plant eraill o hyd gan eu bod nhw’n dal i geisio dod i delerau â cholli eu chwaer fach.”