Y cerddor a'r actor Dewi 'Pws' Morris wedi marw'n 76 oed
Y cerddor a'r actor Dewi 'Pws' Morris wedi marw'n 76 oed
Mae’r cerddor, actor a’r awdur Dewi ‘Pws’ Morris wedi marw'n 76 oed, yn dilyn cyfnod o salwch.
Gyda'i gymeriad lliwgar llawn hiwmor, a’i ddawn naturiol i ddiddanu, daeth llwyddiant iddo mewn nifer o feysydd yn ystod ei fywyd.
Cafodd Dewi Gray Morris ei eni ym 1948 a’i fagu yn ardal Treboeth o Abertawe, ac fe dderbyniodd ei addysg yn ysgol gynradd Lôn Las ac Ysgol Ramadeg Dinefwr.
Fe hyfforddodd fel athro yng Ngholeg Cyncoed, a bu’n gweithio mewn ysgol yn ardal Sblot o Gaerdydd cyn i’w ddiddordeb ym myd actio ddatblygu.
Symudodd i weithio mewn swydd llawn amser gyda Chwmni Theatr Cymru yn ddiweddarach.
Bu'n aelod o'r band Y Tebot Piws yn nyddiau cynnar y Sin Roc Gymraeg, ac yna fe ddaeth yn gitarydd â chanwr gydag un o fandiau mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg erioed, Edward H. Dafis.
Cafodd y grŵp ei ffurfio yn dilyn cyfarfod yn Aberystwyth rhwng Hefin Elis a Dewi Pws.
Fe wnaeth arddull roc trwm y band, gyda chaneuon bachog mewn naws unigryw Gymreig ddod â llwyddiant ysgubol i'r aelodau yn ystod y 70au, gyda nifer o berfformiadau cofiadwy i'r cannoedd oedd yno i'w gwylio.
Enillodd Dewi Pws gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971 gyda'i gân ‘Nwy yn y Nen’ a chyfansoddodd y gân boblogaidd ‘Lleucu Llwyd’ – un o glasuron yr iaith Gymraeg.
Yn fwy diweddar roedd wedi chwarae gyda'r band pync-gwerin Radwm, ac fe wnaeth ymddangos ar lwyfan gyda'r band gwerin Ar Log.
Yn ogystal â mwynhau llwyddiant yn y byd cerddorol, roedd Dewi Pws yn actor amryddawn hefyd.
Ef oedd cymeriad y Brenin Ri yn yr opera roc 'Nia Ben Aur' ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1974.
Cyfansoddwyd y caneuon gan lawer o sêr y Sîn Roc Gymraeg ar y pryd.
Chwaraeodd Dewi Pws y cymeriad Wayne Harries ar 'Pobol y Cwm' o gychwyn y gyfres boblogaidd yn 1974 hyd at 1987.
Roedd ganddo un o'r prif rannau yn y ffilm gomedi eiconig 'Grand Slam' ym 1978, ac yn yr un ddegawd, fe chwaraeodd gymeriad y Dyn Creu yn y gyfres anarchaidd i blant, 'Miri Mawr'.
Yn ystod yr 80au aeth ati i ysgrifennu a pherfformio yn y gyfres gomedi 'Torri Gwynt', gan actio nifer o gymeriadau lliwgar a chofiadwy.
Yn fwy diweddar yn ystod 90au cynnar y ganrif ddiwethaf, bu'n serennu fel tad y teulu yn y gomedi sefyllfa 'Hapus Dyrfa'.
Dewi hefyd oedd yn chwarae rhan un o brif gymeriadau’r opera sebon 'Rownd a Rownd', sef Islwyn Morgan, ym mlynyddoedd cynnar y gyfres honno.
Dyfarnwyd y wobr am y "Cyflwynydd Rhanbarthol Gorau" iddo yn 2003 am ei gyfres ‘Byd Pws’ gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol.
Fe gyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys 'Popeth Pws', 'Hiwmor Pws' ag 'Wps'.
Roedd yn Fardd Plant Cymru rhwng 2010 a 2011, ac fe ymddangosodd nifer o weithiau ar raglen 'Talwrn y Beirdd' ar Radio Cymru.
Anrhydeddau
Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r Orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd, gan ddewis yr enw barddol 'Dewi’n y Niwl', ac fe dderbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2018.
Wrth dderbyn y wobr honno, dywedodd ar y pryd: “Yma yn Abertawe ges i fy addysg gynnar lle ddysgais fod Cymru a’r iaith Gymraeg yn bwysig i mi, a hefyd sut i adeiladu cestyll tywod gore’r byd.”
Saesneg oedd yr iaith rhwng ei rieni pan oedd yn blentyn, ond roedd y Gymraeg yn ganolog i’w fywyd, ac fe chwaraeodd ran mewn nifer o ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith dros y blynyddoedd.
Fe ymgartrefodd yn Nefyn yng Ngwynedd yn y blynyddoedd diweddar, ar ôl cyfnodau yn byw yn Nhresaith ac yn y Felinheli.
Mae’n gadael ei weddw, Rhiannon.