Rhybudd llifogydd mewn grym ar draws arfordir Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi fod rhybudd llifogydd mewn grym dros rhannau helaeth o arfordir Cymru ddydd Iau.
Mae rhybudd "llifogydd - byddwch yn barod" mewn grym ar gyfer afonydd yn y gogledd, gorllewin, de-orllewin a’r de-ddwyrain.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio bod disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel yn yr ardaloedd yma.
Dywed CNC bod disgwyl i lefelau afonydd fod yn uwch na'r arfer a bod angen i bobl gymryd gofal.
Dyma’r ardaloedd ac afonydd sydd wedi eu heffeithio:
- Dalgylchoedd Glaslyn a Dwyryd
- Afonydd Braint a Rhyd y Valley yn Nwyran
- Gennau afon Wysg
- Aber Gwy yn Sir Fynwy
- Arfordir Llŷn a Bae Ceredigion
- Arfordir gogledd Gŵyr
- Arfordir Sir Gaerfyrddin
- Arfordir Sir Benfro
- Arfordir Ceredigion rhwng Clarach ac Aberteifi
- Arfordir gorllewin Môn
- Arfordir gogledd Cymru
Daw yn yn dilyn rhybudd melyn an wyntoedd cryfion oedd mewn grym mewn ambell sir yng ngogledd Cymru ddydd Iau.
Roedd rhybudd ar gyfer siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn mewn grym tan 09:00.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwynt chwythu ar gyflymder o 60mya ar brydiau.
Gallai hynny arwain at oedi ar y ffyrdd, yn ogystal â gwasanaethau awyr a fferi.
Mae rhybudd hefyd i fod yn ofalus ger y glannau, ac mae perygl y gallai rhai tai golli eu cyflenwad trydan.
Mae'n debygol y bydd cyfyngiadau ar gyfer lorïau uchel ar rai ffyrdd agored a phontydd.