Nofio mewn dŵr agored 'angen cael ei wneud yn fwy diogel i ferched'
Gyda nofio mewn dŵr agored yn tyfu mewn poblogrwydd ymysg merched, mae angen rhagor o gefnogaeth i wneud y safleoedd yn fwy diogel a fwy hygyrch yn ôl astudiaeth newydd.
Fe wnaeth tîm o ymchwilwyr, wedi ei arwain gan arbenigwyr o Goleg Prifysgol Llundain (UCL) holi 1,114 o ferched yn y DU rhwng 16 a 80 oed am eu harferion yn ymwneud â nofio dŵr agored.
O'r rhai a oedd yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, dywedodd y mwyafrif (64%) eu bod yn gwneud hynny yn y môr, gyda 89% yn dweud eu bod yn nofio drwy gydol y flwyddyn.
Daeth ymchwilwyr i'r casgliad fod merched sy'n mynd drwy'r menopos sy'n nofio yn rheolaidd mewn dŵr agored wedi adrodd gwelliannau sylweddol i'w symptomau corfforol a meddyliol.
Ond mae'r tîm wedi rhybuddio fod yna risgiau sy'n gallu cael eu gwaethygu gan yr amgylchedd nofio, gan gynnwys y tebygolrwydd cynyddol o gastroenteritis a heintiau eraill yn sgil llygredd yn y dŵr.
Mae dyfroedd ymdrochi penodedig yn y DU yn cael eu monitro fel arfer yn ystod misoedd yr haf, ond nid yw llawer ohonynt yn cyrraedd y safonau disgwyliedig ac mae ymchwilwyr yn credu y gallai hyn fod yn waeth mewn safleoedd sydd heb eu pennu.
'Cadw golwg'
Mae Bethan Russell Williams, 58, yn byw yn Nyffryn Nantlle ac wedi bod yn nofio mewn dŵr agored yn ystod y gaeaf ers pum mlynedd ac yn yr haf ers yn blentyn wedi iddi gael ei magu yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Yn ystod y flwyddyn gyntaf o nofio yn nhymor y gaeaf, nes i sylwi fod na fanteision iechyd hefyd, mae o'n beth llesol dros ben i neud, a mae o'n clirio'r meddwl.
"Ma' rhywun yn fwy ymwybodol dyddia' yma o'r llygredd yn y môr yn enwedig, a ma' 'na griw ohona ni yn defnyddio ap sy'n monitro llygredd ac yn rhoi rhybudd pan ma' 'na unrhyw lif llygredd wedi mynd i'r môr.
"Ma' hynny wedi ein harwain ni i fod yn nofio fwy yn llynnoedd yr ucheldir a mae'n debyg bo' ni'n cael ein denu i fan 'na oherwydd bo' ni fwy ymwybodol o'r llygredd yn y môr. Mae o'n bwysig cymeryd gofal yn y gaeaf boed hynny yn y llynnoedd neu'r môr, ond yn amlwg, rhan o'r broses ddiogelwch yna ydi cadw golwg ar yr ap llygredd."
'Monitro'r safleoedd yn well'
Dywedodd awdur yr ymchwil, yr Athro Joyce Harper o UCL: "Mae modd osgoi hyn drwy fonitro'r safleoedd yn well."
Ychwanegodd y cyd-awdur Dr Mark Harper o Ymddiriedolaeth Ysbytai Prifysgol Sussex: "Mae cadw'n heini yn y byd natur, gyda chymuned, yn gyfuniad a ddylai gael ei annog. Ond nid yw'n cael ei gefnogi ddigon ar hyn o bryd.
"Er enghraifft, yn y DU, dim ond rhwng mis Mai a mis Medi y mae gwefan ansawdd dŵr ymdrochi’r Llywodraeth yn rhedeg, gan anwybyddu misoedd y gaeaf lle mae glaw trwm a gorlif carthion yn digwydd amlaf."
Ychwanegodd Bethan Russell Williams: "'Dan ni'n fwy pryderus fyth bod o 'mond yn cael ei fonitro, hynny yw, bo' ni 'mond yn cael ein hysbysu o lygredd yn y dŵr yn ystod misoedd yr haf.
"Erbyn hyn, ma' 'na llawer mwy o bobl yn nofio mewn dŵr agored yn nhymor y gaeaf oherwydd y budd lles sydd 'na felly dwi'n credu ddylia fo fod yn cael ei fonitro trwy'r flwyddyn."