Pryder am staff dibrofiad yng ngharchar y Berwyn
Mae'r corff sy'n arolygu carchardai yn dweud eu bod yn bryderus am y nifer o staff dibrofiad yng ngharchar y Berwyn yn Wrecsam.
Yn ôl adroddiad blynyddol y Bwrdd Arolygu Annibynnol, mae lefelau staffio yn y carchar wedi "gwella'n sylweddol" ond mae'n destun pryder bod dros 40 y cant o'r swyddogion yn bobl gyda llai na 12 mis o brofiad.
Mae hyfforddiant yn cael ei gynnig ond mae'r adroddiad yn dweud "mae angen gwneud mwy". Mae'r diffyg profiad yn golygu nad ydi rhai tasgau, fel cofnodi digwyddiadau yn y carchar, yn cael eu cwblhau'n gywir.
Mae'r carchar yn dal 2,000 o ddynion. Mae'r Bwrdd yn teimlo fod y carchar ar y cyfan yn ddiogel. Ond mae nhw'n dweud fod poblogaeth y carchar wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwy o garcharorion yno o Loegr, nifer ohonyn nhw'n aelodau o grwpiau troseddol (organised crime groups).
Mae'r achosion o hunan-anafu ymhlith carcharorion yn "gymharol uchel" yn y Berwyn, meddai'r adroddiad, gyda tua 110 o ddigwyddiadau o'r fath yn cael eu cofnodi bob mis.
Mae'r rhan fwyaf o'r achosion yn ymwneud â phobl sy'n diodde o broblemau iechyd meddwl, a mae'r Bwrdd yn bryderus nad oes digon o hyfforddiant yn cael ei gynnig i staff i ddelio â charcharorion o'r fath
Dros gyfnod o 12 mis, bu 558 o ymosodiadau gan garcharorion ar garcharorion eraill, a 173 o ymosodiadau ar staff.