Cerdyn post a gafodd ei ysgrifennu dros 120 mlynedd yn ôl yn cyrraedd cyfeiriad yng Nghymru
Mae cerdyn post wedi cyrraedd cyfeiriad yng Nghymru 121 o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei anfon.
Doedd staff Cymdeithas Adeiladu Abertawe ddim yn gallu credu'r peth wrth fynd drwy'r post yn eu prif swyddfa ddydd Gwener, 16 Awst.
Ochr yn ochr â’r llythyrau arferol yn ymwneud â morgeisi a chynilion, fe wnaeth cerdyn post ymddangos, gyda stamp Brenin Edward VII arno, oedd yn dyddio’n ôl i 3 Awst, 1903.
Cafodd y cerdyn ei ysgrifennu at fenyw o’r enw Lydia Davies, a’r gred yw ei bod hi wedi byw yn y cyfeiriad pan roedd yn dŷ, yn hytrach na banc.
Dywedodd Henry Darby, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Cymdeithas Adeiladu Abertawe bod y cerdyn post yn "amwys."
"Mae'r cyfeiriad yn gywir, ry’n ni dal yn 11 (a 12) Stryd Cradock, ond mae'n 121 mlynedd yn ddiweddarach na'r disgwyl. Mae'n wyllt, â dweud y gwir. Ychydig yn arswydus.
“Mae’r stamp ei hun yn un o Frenin Edward, felly roedd e’n frenin o 1901 tan 1910, a gallech ddweud yn syth o’r llawysgrifen a’r ffordd y mae’n siarad… bod y cerdyn yn perthyn i’r cyfnod.
"O'r hyn ry’n ni’n ddeall, mae'r stamp yn dweud Awst 3, 1903. Mewn pensil ar y top mae'n dweud Abergwaun, Sir Benfro, felly ry’n ni’n tybio bod y cerdyn wedi dod o Abergwaun i Miss Lydia.
"Mae'n eitha amwys - y cerdyn post. Maen nhw'n siarad am rywbeth mae'r ddau yn gwybod amdano ond ddim eisiau ei ddatgelu ar y cerdyn post."
'Mor ddiddorol'
Mae'r banc wedi apelio ar gyfryngau cymdeithasol yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am Ms Davies, neu unrhyw beth arall all ychwanegu at y darlun, i gysylltu â’r tîm.
Dywedodd Mr Darby: “Ry’n ni’n gwybod ei bod hi’n weddol bell yn ôl, ond ro’n ni’n meddwl y byddai mor ddiddorol gwybod sut oedd bywyd ar Stryd Cradock 121 o flynyddoedd yn ôl.
"Cafodd y gymdeithas adeiladu ei hun ei sefydlu 20 mlynedd ar ôl i'r cerdyn post gael ei anfon. O'r hyn ry’n ni’n gallu ei fesur wrth chwilio trwy’r archifau, ry’n ni’n meddwl bod mwy o dai traddodiadol yma gafodd eu bomio, ac mae ein swyddfa yn adeilad sydd wedi cael ei ailgodi, ond mae'r cyfeiriad wedi aros yr un peth.
Dywedodd llefarydd ar ran y Post Brenhinol: “Mae’n debygol i’r cerdyn post yma gael ei roi yn ôl i’n system ni yn hytrach na chael ei golli yn y post am dros ganrif. Pan fydd eitem yn ein system, mae disgwyl inni ei ddanfon at y cyfeiriad cywir.”