Newyddion S4C

Rhybudd am wyntoedd cryfion ddydd Iau yn y gogledd orllewin

21/08/2024
Gwynt

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn an wyntoedd cryfion mewn ambell sir yng Ngogledd Cymru ddydd Iau.

Mae'r rhybudd ar gyfer siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn mewn grym rhwng 01:00 a 09:00.

Gallai'r gwynt chwythu ar gyflymder o 60mya ar brydiau, yn ôl y swyddfa. 

Gallai hynny arwain at oedi ar y ffyrdd, yn ogystal â gwasanaethau awyr a fferi. 

Mae rhybudd hefyd i fod yn ofalus ger y glannau, ac mae perygl y gallai rhai tai golli eu cyflenwad trydan. 

Mae'n debygol y bydd cyfyngiadau ar gyfer lorïau uchel ar rai ffyrdd agored a phontydd.  

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.