Newyddion S4C

Y ddarlledwraig Lauren Laverne yn yr ysbyty wedi diagnosis o ganser

21/08/2024
Lauren Laverne

Cyhoeddodd y ddarlledwraig Lauren Laverne ei bod yn cael triniaeth mewn ysbyty ar ôl iddi gael gwybod bod ganddi ganser.  

Mae cyflwynydd rhaglenni radio'r BBC, sy'n 46 oed, wedi dweud bod disgwyl iddi wella'n llwyr.   

Mewn neges ar ei chyfrif Instagram dywedodd: “Mae gen i newyddion personol… Yn ddiweddar, cefais ddiagnosis canser

“Cafodd (diolch i Dduw) ei ddarganfod yn gynnar, ac yn annisgwyl yn ystod prawf sgrinio, ac mae disgwyl i fi wella'n llwyr.”

Mae cyflwynydd Desert Island Discs wedi diolch i'r timau meddygol sydd wedi bod yn rhoi gofal iddi "gyda sgiliau anhygoel a charedigrwydd" wrth iddi gael trinaeth mewn ysbyty. 

Mae hi hefyd wedi canmol ei theulu a'i ffrindiau sydd wedi bod yn "anhygoel."  

Diolchodd hefyd i'w chydweithwyr am eu cefnogaeth. 

“Rwy'n anfon llawer o gariad at unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg," meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.