Newyddion S4C

Tân mynydd ger Penmaenmawr 'wedi ei achosi gan wersyllwyr'

21/08/2024
tan mynydd

Mae arweinydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar danau gwyllt yn apelio ar y cyhoedd i gymryd gofal pan yn mwynhau cefn gwlad wrth iddo ddweud bod y tân sy'n cael ei ddiffodd ar ochr mynydd yn Nwygyfylchi, Sir Conwy, yn debygol o fod wedi cael ei achosi gan wersyllwyr.

Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i fynydd uwchben yr A55 yn dilyn nifer o alwadau gan y cyhoedd nos Fawrth.

Roedd yr alwad gyntaf am 19:27 ac roedd pedwar criw yn parhau i frwydro'r tân ar y mynydd fore dydd Mercher.

Bellach mae tri chriw a dwy uned tanau gwyllt yn bresennol wrth geisio ymladd y tân.

Credir bod y tân yn effeithio ar tua 1000m² o dir.

Dywedodd Tim Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Rydym yn annog pawb i fod yn ddoeth ac ymrwymo i ragofalon syml a chymryd ychydig o ofal ychwanegol i helpu i sicrhau y gallwn barhau i fwynhau ein cefn gwlad hardd a chadw ein cymunedau'n ddiogel rhag effeithiau dinistriol tanau gwyllt.

“Yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn, gall glaswellt a mynyddoedd fynd yn sych iawn, sy'n golygu os byddwch chi'n cychwyn tân yn yr awyr agored yn fwriadol neu'n ddamweiniol, bydd yn lledaenu'n gyflym iawn, gan ddinistrio popeth yn ei lwybr."

Ychwanegodd: “Rydym yn annog pob aelod o'n cymunedau i barchu ein cefn gwlad a chwarae eu rhan wrth ddiogelu ein hamgylchedd a chadw ein cymunedau'n ddiogel.

“Er bod damweiniau'n digwydd, yn aml mae modd eu hosgoi hefyd, ac mae ein hymgyrch Doeth i Danau Gwyllt yn canolbwyntio ar ein haddysgu ni i gyd ar rai o'r camau bach y gallwn eu cymryd i sicrhau nad ydym yn achosi tân glaswellt ar ddamwain."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.