'Pennod newydd': Barrack Obama yn galw ar Americanwyr i gefnogi Kamala Harris
Mae cyn Arlywydd America Barrack Obama a'i wraig Michelle Obama wedi galw ar etholwyr i gefnogi Kamala Harris yn ystod areithiau yng Nghonfensiwn Cenedlaethol y Democratiaid.
Roedd y ddau yn siarad ar ail ddiwrnod y digwyddiad yn Chicago.
Mae disgwyl i Ms Harris gael ei chadarnhau'n swyddogol fel enwebiad Arlywyddol y Democratiaid yn ystod y Confensiwn.
Dywedodd Mr Obama ei fod yn cefnogi Ms Harris a bod America yn barod am "bennod newydd."
"Mae America yn barod am stori well. Rydym yn barod ar gyfer yr Arlywydd Kamala Harris."
Cafodd ymgeisydd y Gweriniaethwyr, Donald Trump ei watwar gan Barrack a Michelle Obama.
Dywedodd Mr Obama: "Dyma'r biliwnydd 78 oed sydd heb stopio cwyno am ei broblemau.
"Mae yna'r llysenwau plentynnaidd, y damcaniaethau gwallgof am gynllwynion, yr obsesiwn rhyfedd hwn gyda maint tyrfaoedd."
Gofynnodd Michelle Obama a oedd Mr Trump yn gwybod ei fod yn ymgeisio am "un o swyddi pobl ddu" gan gyfeirio at swydd yr Arlywydd.
Roedd hi'n tynnu sylw yn benodol at safbwynt Mr Trump, pan ddywedodd bod mewnfudwyr yn cymryd "swyddi pobl ddu" yn America.
Mae'r arolygon barn yn awgrymu fod Kamala Harris ar y blaen, ond mae'n agos iawn rhyngddi hi a Mr Trump.