Mark Drakeford a John Swinney yn cael eu heclo mewn gŵyl lyfrau
Cafodd cyn Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney eu heclo yn ystod digwyddiad yng Ngŵyl Lyfrau Rhyngwladol Caeredin nos Fawrth.
Roedd y ddau wleidydd ar lwyfan a'r drafodaeth ar fin dod i ben, pan gododd dynes ar ei thraed yn y gynulleidfa, a gweiddi ar John Swinney, gan gyfeirio at gyfarfod rhwng un o'i weinidogion â diplomydd Israelaidd.
Cyhuddodd Mr Swinney o roi arian i gwmniau sydd â chyswllt â'r hyn sy'n digwydd yn Gaza. A galwodd ar Brif Weinidog yr Alban i ymddiswyddo yn ogystal â'r Ysgrifennydd Materion Allanol Angus Robertson, oherwydd iddo fe gyfarfod â dirprwy lysgennad Israel.
Cyfeiriodd hefyd at sefyllfa Palesteiniaid ar Lain Gaza.
Galwodd rhai yn y dorf arni i dawelu a chaniatáu i eraill siarad.
Dywedodd cadeirydd y drafodaeth, Laura Maxwell, ei bod wedi wedi gobeitho cymryd rhagor o gwestiynau o'r gynulleidfa, ond nad oedd hynny'n bosibl mwyach.
Wrth i'r drafodaeth ddod i ben, caofdd y brotestwraig ei hebrwng allan o'r digwyddiad yn yr Edinburgh Futures Institute.
Roedd Mark Drakeford yn rhan o'r drafodaeth gyda Mr Swinney er mwyn nodi chwarter canrif o ddatganoli yng Nghymru a'r Alban.
Ddydd Llun, ymddiheurodd Mr Robertson am gyfarfod â dirprwy lysgennad Israel, Daniela Grudsky bythefnos yn ôl, gan gydnabod y dylai fod wedi galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza, a hynny'n unig, yn hytrach na thrafod materion eraill hefyd.