Brics i Batagonia: Codi arian i adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg-Sbaeneg
Mae ymgyrch codi arian ar droed er mwyn adeiladu'r ysgol uwchradd gyntaf o’i bath yn Threvelin ym Mhatagonia.
Nod ymgyrch Brics i Batagonia yw adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg-Sbaeneg yn y dref yn nhalaith Chubut, a hynny trwy werthu hyd at 10,000 o frics am £5 yr un, a fydd yn gyfraniad tuag at adeilad yr ysgol.
Hon fyddai'r unig ysgol uwchradd yn y rhanbarth i ddarparu addysg drwy’r Gymraeg – ac mae hynny’n “hollbwysig” er mwyn cadw’r iaith yn fyw yno, medd aelodau’r pwyllgor sydd ynghlwm â’r ymgyrch codi arian.
“Mi oedd Cymry yn y Wladfa yn llwyddiannus iawn yn cadw’r iaith am 150 o flynyddoedd, ond rŵan mae’r hen bobol yn gadael ni,” meddai Margarita Green wrth siarad â Newyddion S4C.
“Os dan ni ddim yn wir yn gweithio er mwyn cadw ein hiaith, bydd yn anodd iawn cadw’r diwylliant hefyd.
“Fydd e’n anodd iawn dweud bod ni o dras Gymreig heb siarad yr iaith.”
Fe gafodd Ms Green ei magu mewn cartref gyda siaradwyr Cymraeg yn Nhrevelin, ond doedd dim cyfle iddi ddefnyddio’r iaith yn yr ysgol ar y pryd, esboniodd.
Bellach mae hi'n benderfynol o sicrhau fod plant yr ardal yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hysgol yn ogystal â’u bywyd teuluol.
“Dyna beth sydd ddim yn gadael i ni gysgu’n dawel ac yn gwneud i ni godi bob dydd,” meddai.
'Cyfleoedd'
Yn wreiddiol o Fethesda, ag yntau bellach wedi ymgartrefu yn y Wladfa ers bron ddegawd, mae Gwion Elis-Williams yn credu bod angen cyfleoedd i blant o gefndir Cymreig a Sbaeneg i ddal ati gyda’u haddysg drwy’r Gymraeg.
“Mae’n bwysig rhoi’r cyfle i blant o dras Gymreig i barhau gydag iaith eu neiniau a’u teidiau, yn ogystal â’r rheini sy’n symud o’r dinasoedd mawr, fel Buenos Aires a ballu.”
Cafodd yr ymgyrchwyr eu hysbrydoli gan lwyddiant hanesyddol Cymraes arall yn y Wladfa – sef y ddiweddar Hazel Charles Evans – a fu'n cynnal gwersi Cymraeg ledled talaith Chubut yn yr 1990au.
“Fe wnaeth hi ddod fyny gyda’r ymgyrch i werthu bricsen am bunt yr un er mwyn codi canolfan Gymraeg newydd yn Esquel,” meddai Mr Elis-Williams.
“A dyma ni rŵan, chwarter canrif yn ddiweddarach yn atgyfodi’r ymgyrch codi arian trwy werthu brics.”
Apêl am 'ffrindiau all helpu'
Ar hyn o bryd, mae rhai gwersi ysgol uwchradd yn cael eu cynnal drwy’r Gymraeg yn ysgol gynradd Ysgol y Cwm yn Nhrevelin.
Gyda 50 o ddisgyblion, fe agorodd yr ysgol gynradd honno ei drysau ym mis Mawrth 2016. Bellach mae 150 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Ond gyda sefyllfa ariannol “ansefydlog” yn nhalaith Chubut, mae’r ysgol yn cael ei hariannu’n breifat yn bennaf gan rieni, gyda llywodraeth talaith Chubut yn cyfrannu at gyflogau staff.
“Mae’r ysgol Gymraeg uwchradd yn rhannu ystafelloedd efo’r ysgol gynradd a dydy hwnna ddim yn rhywbeth 'dan ni’n gallu parhau i ‘neud,” meddai Margarita Green.
“Mae’r syniad o godi adeilad newydd – mae o’n ymdrech enfawr o ran arian i ni, dyna pam dechreuon ni gyda’r syniad o godi arian fan hyn yn y wlad ac yng Nghymru hefyd.
“Mae’r sefyllfa ariannol fan hyn yn Yr Ariannin yn ofnadwy o ddrwg ar hyn o bryd felly ‘dan ni ddim yn gallu disgwyl llawer o help gan y llywodraeth na dim byd.”
Yn y gobaith o agor y drysau i’r ysgol uwchradd ddwyieithog Gymraeg-Sbaeneg cyntaf yn Nhrevelin erbyn mis Mawrth 2027, mae’r ymgyrchwyr yn apelio am gymorth gan unrhyw un all helpu.
Dywedodd Margarita Green: “Yr unig gyfle ydy os oes 'na ddigon o ffrindiau draw sydd yn barod i helpu – a 'dan ni’n credu bydd.”