Dyn 38 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiadau honedig mewn coedwig yng Nghaergybi
Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiadau honedig mewn coedwig ar Ynys Môn.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd dderbyn adroddiad ar 13 Awst fod dyn wedi mynd at ddynes yng Ngwarchodfa Natur Penrhos yng Nghaergybi a'i dilyn.
Yn ôl yr heddlu, roedden nhw eisoes wedi derbyn adroddiadau am ddyn yn dangos ei hun mewn modd anweddus yn yr un ardal ar sawl achlysur rhwng mis Mawrth a Mai eleni.
Dywedodd yr heddlu fod dyn 38 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiadau hyn a'i fod yn eu cynorthwyo gyda'u hymholiadau.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl, Leslie Ellis: “Rydym yn ymwybodol o bryderon lleol ynglŷn â’r digwyddiadau hyn a byddwn yn pwysleisio bod adroddiadau o’r natur yma’n brin yng Nghaergybi.
“Mae patrolau ychwanegol yn cael eu cynnal yn yr ardal er mwyn tawelu meddyliau.
“Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein helpu gyda'n hymholiadau i gysylltu â ni.
“Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un a oedd yn gyrru yn ardal Coed Penrhos ar ddydd Mawrth, 13 Awst rhwng 7.00 a 15.00 ac a allai fod wedi cofnodi unrhyw beth amheus ar dashcam, i gysylltu â ni.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 24000220257.