Newyddion S4C

Oriau gwylio wythnosol uchaf i S4C ers 15 mlynedd

20/08/2024
S4C

Mae S4C wedi cyhoeddi fod y sianel wedi gweld 'twf sylweddol' yn nifer yr oriau gwylio a chyrhaeddiad eu cynnwys dros wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Fe gadarnhaodd y sianel hefyd fod ffigurau gwylio yn ystod yr wythnos dros deirgwaith lefel wythnos arferol ar gyfer S4C.

Yn ôl ffigyrau a gafodd eu rhyddhau ddydd Mawrth, roedd cyrhaeddiad holl raglenni’r Eisteddfod ar deledu eleni yn 291,000 yng Nghymru - 17% yn uwch nag yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 - a 333,000 ar draws y DU. 

Roedd holl oriau gwylio S4C yn ystod wythnos yr Eisteddfod dros 2 miliwn, sy’n uwch nag unrhyw wythnos ar S4C ers 15 mlynedd, ac roedd yr oriau gwylio ymhlith rhai 16-44 oed hefyd ar eu uchaf ers 15 mlynedd.

Cafodd cynnwys S4C o’r Eisteddfod Genedlaethol ei wylio 2.8 miliwn o weithiau ar draws platfformau digidol y sianel, a hynny ar gyfrifon cyfyngau cymdeithasol - Instagram, Facebook, Tiktok, Twitter a YouTube.

Wrth ymateb i’r ffigurau gwylio, dywedodd Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro S4C; Roedd yr Eisteddfod eleni yn brofiad arbennig i unrhyw un fu yno, ac mae’n dda i weld bod ein cynnwys wedi cael ei fwynhau a’i werthfawrogi gan gymaint o bobl. 

"Roedd yr arlwy dyddiol a chynhwysfawr gan BBC Cymru yn llwyddo i ddod â blas o Bontypridd i chi ble bynnag fyddech yn dymuno ei wylio, a’r cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn dod a hwyl y maes a’r llwyfannau i gynulleidfaoedd newydd amrywiol. 

Fe ychwanegodd Ms William: "Mae’r ffigyrau yma yn glod i’n partneriaid cynhyrchu i gyd am eu hegni a’u creadigrwydd.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.