Newyddion S4C

Brian May: 'Gall gwella hylendid ffermydd helpu i gael gwared â'r diciau'

20/08/2024

Brian May: 'Gall gwella hylendid ffermydd helpu i gael gwared â'r diciau'

Brian May yn gweld effaith y diciau gyda'i lygaid ei hun.

Mae gitarydd y grwp Queen hefyd yn adnabyddus am ei waith fel ymgyrchydd hawliau anifeiliaid.

Dyna sydd wedi arwain at arbrawf i gael gwared o'r diciau.

I'm so sorry, so sorry.

Mewn rhaglen ddogfen mae'r cerddor yn dweud iddo lwyddo i wneud hynny ar Fferm Gatcombe yn Nyfnaint heb ddifa moch daear.

Roedd gwella hylendid yn allweddol meddai.

Everything is within the herd.

The spread of Bovine TB is from cow to cow.

It's because of inefficient hygiene situation.

Biosecurity, which in the old days meant keeping badgers out but now means keeping the slurry away from the cows so that they can't infect each other.

Sel ddefaid oedd ym mart Llandeilo heddiw ond mae nifer o'r ffermwyr yma'n cadw gwartheg a rhai ohonyn nhw wedi cael TB ar eu ffermydd.

O'dd ffrind i fi, o'dd 85 o da wedi mynd i gael eu lladd.

O'dd 79 o'r rheina'n glir o TB.

Dweud 'na wrth Brian May!

Ni'n gorfod cael gwared o'r da os oes TB arnyn nhw.

Os oes rhywbeth arall yn cario TB, cael gwared a nhw!

Mae pawb yn gwybod ers blynyddoedd be' sy'n achosi fe ond maen nhw'n pallu gwneud dim byd ambyti fe. 

Tra'n croesawu'r drafodaeth, mae undeb ffermwyr yr NFU yn cytuno bod bywyd gwyllt yn rhan o'r broblem a bod rhaid mynd i'r afael a hynny os yw pethe i wella.

Mae'n gamarweiniol i awgrymu bod ffermwyr ar y cyfan ddim yn gofalu am eu hanifeiliaid yn iawn neu ddim yn cadw nhw mewn amodau addas.

'Na beth yw'r sefyllfa.

Mae anifeiliaid yn cael eu cadw mewn amodau sy'n addas ac yn lan.

Y rhwystredigaeth yw'r amharodrwydd gan bobl fel Brian May i dderbyn bod rhaid delio gyda'r sefyllfa yn ei chyfanrwydd os ydyn ni'n mynd i gael gwared a TB.

Os ydy Llywodraeth Cymru o ddifri am gyrraedd statws lle does 'na ddim TB gyda ni yn y wlad erbyn 2041 rhaid bod yr offer, y cyfarpar i gyd yn cael ei ddefnyddio a bod ni'n ymdrin a'r sefyllfa yn ei chyfanrwydd a mae hynny'n cynnwys ymdrin a'r sefyllfa mewn bywyd gwyllt.

Yr wythnos ddiwethaf, sefydlodd Llywodraeth Cymru Fwrdd TB i geisio gael gwared o'r haint erbyn 2041.

Yn ol y Llywodraeth, mae e'n cael effaith ofidus ar iechyd a lles ffermwyr a'u teuluoedd.

Maen nhw'n benderfynol o gael gwared ohono ond mae'r cyn-filfeddyg yma yn amau a all hynny ddigwydd heb ddifa moch daear.

Rhywbeth sydd heb ei wneud yn eang yng Nghymru.

Ni'n gwybod bod y profion ddim digon da.

Ni'n gwybod bod TB yn cael ei drosglwyddo o un fuwch i'r llall a bod tail yn bart o'r broblem.

Ond gewn ni byth wared a TB heb edrych arno fe yn ei gyfanrwydd.

Wrth edrych arno fe yn ei gyfanrwydd chi'n son am ddifa moch daear. Mae sawl anifail gwyllt yn gallu cario TB.

Moch daear, ceirw, cadnoaid.

Does dim un wlad yn y byd wedi cael gwared a TB mewn gwartheg heb rheoli TB yn y bywyd gwyllt.

Cafodd dros 11,000 o dda eu difa yng Nghymru rhwng Ebrill y llynedd a mis Mawrth eleni.

Mae nifer o ffermwyr yn poeni nad yw pethau'n gwella ac maen nhw a Brian May yn gytun, bod rhaid i hynny newid.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.