Pum marathon mewn pum niwrnod i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr MND
Pum marathon mewn pum niwrnod i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr MND
Dyma ni yn Woodley Chase.
Camau cyntaf her Huw Jones i redeg pum marathon mewn pum niwrnod er mwyn codi ymwybyddiaeth o glefyd motor niwron.
Mae chwaer-yng-nghyfraith i, Bridget yn dioddef o gyflwr MND.
O'n i'n moyn wneud rhywbeth i godi ymwybyddiaeth a chodi arian.
Fel rhywun sydd 'di bod ynghlwm gyda rygbi ers yn blentyn bach iawn o'dd y ddau peth yn cysylltu'n dda gyda'i gilydd.
Fi just yn credu mae fe'n gyflwr mor greulon ac un sydd angen codi ymwybyddiaeth amdano fe.
Taith o 130 o filltiroedd yw hi gan ddechrau ym Marfod ger Wrecsam lle gafodd Bridget ei magu ac yn gorffen ym Machen Isaf, cartref ei rhieni heddiw.
Mae hi mor positif am bopeth a just yn brwydro mor galed am bopeth.
Mae'r meddylfryd sydd gyda hi yn ysbrydoliaeth i ni yn ddyddiol.
Unrhyw beth... mae unrhyw beth yn mynd bach yn galed fi'n meddwl am bopeth mae hi'n mynd trwy pob dydd.
Dyw e'n ddim byd i gymharu a hwnna.
Hi yw'r ysbrydoliaeth dros wneud hwn.
Yn ol Cymdeithas Clefyd Motor Niwron mae 5,000 o oedolion yn dioddef o'r clefyd ar draws y Deyrnas Unedig ar unrhyw adeg.
Y risg o berson yn datblygu MND yw un ym mhob 300.
Gobaith Huw yw codi ymwybyddiaeth o'r clefyd a'r angen am fwy o ymchwil i ddarganfod gwellhad.
Chi'n gweld bod pethau o'dd hi'n gallu gwneud y tro diwethaf... dyw hi ddim yn gallu gwneud y tro yma.
Mae e jyst yn... ie, mae e'n rili anodd i weld rhywun sy'n rili agos i chi yn mynd trwy hwnna.
O'dd hi'n galluog iawn ac yn gallu cael sgyrsiau rili dwfn am lot o bethau gwahanol gyda hi.
A hwnna sy'n anodd wedyn.
Erbyn nawr, dyw hi ddim yn gallu cyfathrebu rhagor yn geiriol.
Ei ysbrydoliaeth yw cryfder a dygnwch ei chwaer-yng-nghyfraith.
Ers i hwn ddigwydd, she's a warrior.
Mae hi just mor... ie, sori.
Mae hi mor benderfynol bod hi'n mynd i wneud popeth mae hi'n gallu i ymladd hwn.
Dyna beth sy'n ysbrydoli fi yn ddyddiol.