Dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad hiliol honedig ym Mhwllheli
Mae dyn 47 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad honedig yn ymwneud â chasineb hiliol ym Mhwllheli, Gwynedd.
Cafodd y dyn lleol ei arestio ar ffordd ger archfarchnad Asda am 14.30 ddydd Llun.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Dywedodd y Cwnstabl Mitchell: “Nid ydym yn goddef casineb hiliol yn ein cymunedau a byddwn yn gweithredu ar bob adroddiad”.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn dyst neu a fu’n rhan o’r digwyddiad i gysylltu â’r heddlu.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â thystiolaeth ar gamera i gysylltu â ni.”
Mae’r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 24000719749.