Ymchwiliad llofruddiaeth yng Nghaerdydd yn dilyn marwolaeth menyw 45 oed
20/08/2024
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth menyw 45 oed yng Nghaerdydd.
Derbyniodd Heddlu'r De alwad am 00:30 fore ddydd Mawrth cyn darganfod y fenyw mewn tŷ ar Ffordd Caerffili yn y brifddinas.
Mae dyn lleol 44 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae wedi’i gludo i orsaf heddlu Bae Caerdydd i’w holi.
Mae ymchwiliad i'r farwolaeth wedi cychwyn ac mae cordon yr heddlu mewn lle yn safle'r digwyddiad.
Llun: Geograph