Syr Keir Starmer yng ngorllewin Cymru i drafod ynni glân
Syr Keir Starmer yng ngorllewin Cymru i drafod ynni glân
Ar ei ail ddiwrnod o'i daith i Gymru, bydd Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer yn ymweld â'r gorllewin ddydd Mawrth yng nghwmni Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan wrth i'r ddau ganolbwyntio ar ynni glân.
Bydd y ddau yn ymweld â safle ynni adnewyddadwy er mwyn bwrw golwg ar gynlluniau cwmnïau o Gymru sy'n buddsoddi mewn prosiectau ynni glân i bweru cartrefi a chefnogi swyddi yn y gymuned leol.
Cafodd y cyfarfod cyntaf rhwng y ddau arweinydd ei gynnal yng Nghaerdydd brynhawn Llun gyda dyfodol y diwydiant dur a cholli miloedd o swyddi ym Mhort Talbot ar frig yr agenda.
Wrth ymweld â fferm wynt yn y gorllewin ddydd Mawrth, mae disgwyl i'r ddau brif weinidog addo "cydweithio'n agos " ym maes ynni glân, gan bwysleisio manteision cwmnïau ynni cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru, sy'n berchen i'r Llywodraeth ym Mae Caerdydd, tra bo' Llywodraeth y DU yn datblygu'r cwmni ynni glân cyhoeddus Great British Energy.
Mae GB Energy yn gynllun gwerth £8.3 biliwn dros gyfnod o bum mlynedd.
Datgelodd Syr Keir Starmer ei gynlluniau i sefydlu Great British Energy yn ystod ei ymweliad â phorthadd Caergybi ym mis Mawrth pan roedd yn arweinydd ar yr wrthblaid bryd hynny.
Ymunodd Prif Weinidog newydd Cymru ar y pryd Vaughan Gething ag ef yno, gyda Syr Keir Starmer yn nodi y byddai'r fenter yn arwain at "lai o ddibyniaeth ar ynni o dramor."
Mae costau ynni wedi cynyddu'n sylweddol ers i Rwsia ymosod ar Wcráin ym mis Chwefror 2022.
Ar y pryd, beirniadodd y Ceidwadwyr y cyhoeddiad gan ei alw'n "wariant heb ei ariannu" a allai arwain at "drethi uwch" i deuluoedd.
Yng Nghaergybi fis Mawrth, dywedodd Syr Keir mai'r cynllun gwerth £8.3 biliwn i adeiladu ffermydd gwynt ar y môr fyddai'r buddsoddiad cyntaf y byddai cwmni Great British Energy yn ei wneud, pe bai’r blaid Lafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol.
Trydan Gwyrdd Cymru
Cafodd Trydan Gwyrdd Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2024, er mwyn cyflymu datblygiad prosiectau ynni cynaladwy ar dir cyhoeddus yng Nghymru, yn arbennig ar y môr.
Cyn ei daith i'r gorllewin ddydd Mawrth, dywedodd Syr Keir: “Ry'n ni wedi etifeddu polisi ynni anghyflawn, sy'n golygu bod aelwydydd ar hyd a lled y DU mewn sefyllfa fregus gyda pherygl i filiau godi'n sylweddol.
“Rwy'n benderfynol y bydd Cymru wrth galon ein huchelgais, er mwyn sichrau fod Prydain ar flaen y gad ym maes ynni adnewyddadwy.
“Bydd Great British Energy yn rhoi'r Deyrnas Unedig gyfan ar y llwybr cywir er mwyn sicrhau'r annibyniaeth ry'n ni ei hangen, tra'n darparu biliau is i aelwydydd a busnesau a chreu'r genhedlaeth nesaf o swyddi sydd angen sgiliau.”
Dywedodd y Farnwnes Morgan: “Mae ein datblygwr ynni sy'n berchen i'r cyhoedd, Trydan Gwyrdd Cymru, yn fuddsoddiad hir dymor, sy'n rhoi sero net a chymunedau Cymru wrth galon y trawsnewidiad ym maes ynni."