‘Mor grac gyda fy hunan’: Mike Phillips yn trafod cael ei ddal yn yfed a gyrru

Mike Phillips

Mae cyn-fewnwr Cymru Mike Phillips wedi dweud mai yfed a gyrru oedd “un o’r pethau gwaethaf” iddo ei wneud yn ei fywyd.

Fe wnaeth y sylwadau fel rhan o raglen newydd Y Cyfweliad ar S4C lle mae rhai o enwogion Cymru yn cael eu holi gan grŵp o 30 o ymholwyr awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu.

Yn ystod y sgwrs, mae’n trafod adegau sydd ddim bob tro wedi bod yn hawdd, gan gynnwys gorfod dweud wrth ei rieni am gael ei ddal yn yfed a gyrru. 

Mae’n cyfeirio nôl at y cyfnod hwnnw a dweud wrth ei rieni wrth i un o’r holwyr ofyn pryd oedd y tro diwethaf iddo grio. 

Dywedodd Mike Phillips:“Oni mor grac gyda fy hunan achos mae e'n un o'r pethau gwaethaf fi wedi neud. 

“Oni'n upset gyda fy hunan ac wedi torri lawr gyda Mam a Dad a gadael pobl lawr. 

“Ond lwcus iawn bod dim byd drwg wedi digwydd." 

Roedd wedi ei arestio yn Llanwrtyd, Powys, ym mis Gorffennaf 2024, wedi i brawf anadl am alcohol ddangos ei fod dair gwaith dros y terfyn cyfreithiol.

Fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am 25 mis, a derbyn dirwy, ar ôl cyfaddef i yfed a gyrru.

'Calon'

Mike Phillips yw mewnwr mwyaf profiadol Cymru erioed gyda 94 o gapiau, gan ennill tair Pencampwriaeth Chwe Gwlad, dwy Gamp Lawn, ac ymddangos mewn dwy gystadleuaeth Cwpan y Byd.

Mae’r rhaglen hefyd yn trafod ei fagwraeth ar fferm yn sir Gaerfyrddin, ei fywyd yn Dubai, a sefyllfa rygbi yng Nghymru heddiw. 

Dywedodd bod sefyllfa bresennol tîm rygbi Cymru yn un “anodd wrth gwrs”.

“Ni'n wlad fach - mae e'n bwysig ein bod ni'n cael tîm cenedlaethol i fod - ddim wastad yn llwyddiannus - ond mewn gemau,” meddai.

“Ac yn chwarae gyda calon achos maen nhw'n cynrychioli ni gyd a ma hwnna'n rhoi gymaint o hwb i bobl felly gewn ni weld."  

Ef yw’r ail i gymryd rhan yn y gyfres newydd Y Cyfweliad fydd i’w gweld ar S4C ar nos Fawrth 6 Ionawr am 21.00. 

Hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres mae Bronwen Lewis ac Elin Fflur. Mae’r bennod gyntaf gyda Dafydd Iwan ar gael ar alw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.