Dirwy i ffermwr am lygru afon yn Rhondda Cynon Taf
19/08/2024
Mae ffermwr wedi cael ei ddirwyo am lygru afon yn Rhondda Cynon Taf.
Yn Llys Ynadon Merthyr Tudful fe blediodd Huw Pritchard o fferm Castellau Fach yn euog o achosi llygredd silt yn Nant Castellau, sy'n llifo i Nant Muchudd, sy’n un o lednentydd Afon Trelái.
Clywodd y llys fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal ymchwiliad yn dilyn adroddiadau ym mis Hydref 2022 gan aelodau o'r cyhoedd “am ddŵr afliwiedig” yn y nant ger Capel Castellau.
Cafodd Mr Pritchard ddirwy o £250 gyda gordal dioddefwr o £100 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £850 i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru