Syr Keir Starmer yn teithio i Gaerdydd i gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru
Syr Keir Starmer yn teithio i Gaerdydd i gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer wedi teithio i Gaerdydd brynhawn Llun i gyfarfod â Phrif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan.
Dyma'r cyfarfod cyntaf rhwng y ddau arweinydd, ers i Eluned Morgan ddechrau ar ei swydd wedi ymddiswyddiad Vaughan Gething.
Yn ôl llefarydd ar ran Rhif 10, mae'r ddau wedi bod yn trafod "pwysigrwydd parhau i ailosod perthynas hanfodol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a'u penderfyniad ar y cyd i gyflawni dros weithwyr ym mhob cwr o'r wlad.
"Wrth i Lywodraeth y DU ddechrau ar ddegawd o adnewyddu cenedlaethol, bydd pobl a chymunedau Cymru ar flaen y gad ac yn ganolbwynt i'r ffocws i greu swyddi o ansawdd da, lleihau biliau ynni a darparu'r sicrwydd ynni sydd ei angen arnom," meddai'r llefarydd.
Gydag Ysgrifennydd Cymru yn San Steffan Jo Stevens hefyd yn bresennol, bu'r tri yn trafod y diwydiant dur, yng nghanol pryderon am filoedd o weithwyr sy'n wynebu colli eu gwaith yng nghanolfan Tata Steel ym Mhort Talbot.
Mae'r cwmni yn troi at ffyrdd newydd o gynhyrchu dur sy'n fwy llesol i'r amgylchedd.
“Byddwn ni angen mwy o ddur, ” meddai Sy Keir ar ei ymweliad â Chaerdydd, gan ychwanegu bod "cyfleoedd anferth" yn y sector.
“Fy mhryder ydy, ein bod ni yn mynd i golli'r capasiti i wneud dur," dywedodd.
Mae disgwyl i Syr Keir Starmer ac Eluned Morgan ymweld â safle ynni adnewyddadwy ddydd Mawrth er mwyn bwrw golwg ar gynlluniau cwmnïau o Gymru sy'n buddsoddi mewn prosiectau pŵer glân i bweru cartrefi a chefnogi swyddi yn y gymuned leol.
Yn gynharach ddydd Llun, roedd Prif Weinidog y DU yng Ngogledd Iwerddon.
Dywedodd bod y trais diweddar ar strydoedd yno, wedi marwolaethau tair merch yn Southport yn "anioddefol."