Newyddion S4C

Dyn yn y llys ar amheuaeth o daflu sylwedd cemegol at ddyn arall ger Llandeilo

ITV Cymru 19/08/2024
Llys Ynadon Llanelli

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol a thaflu sylwedd cemegol at ddyn 20 oed yn Sir Gaerfyrddin .

Fe wnaeth Jivan Dean, 23, ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun, gan siarad i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad un unig. 

Mae e wedi ei gyhuddo o daflu sodiwm hydrocsid at y dyn ar safle 'Tipi Valley' ger Llandeilo ar 14 Awst, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Mae Mr Dean wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 16 Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.