Newyddion S4C

Pum marathon mewn pum niwrnod i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr MND

Newyddion S4C 19/08/2024

Pum marathon mewn pum niwrnod i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr MND

Taith o dros 130 o filltiroedd - dyna sy’n wynebu Huw Jones o Gaerffili yn ystod yr wythnos hon.

Mae’r athro addysg gorfforol wedi penderfynu rhedeg pump marathon mewn pum niwrnod er mwyn codi ymwybyddiaeth am glefyd Motor Niwron a’r angen, meddai, am fwy o ymchwil i ddarganfod gwellhad.

Cafodd chwaer yng ngyfraith Huw, Brigette Hughes ddiagnosis o glefyd motor niwron ddwy flynedd yn ôl.

‘Nes i penderfynu tri neu bedwar mis yn ôl nawr, ar ôl bod lan i Gogledd Cymru gyda fy ngwraig.

'O’n i Eisiau neud rhywbeth i godi arian felly nes i feddwl nai jest rhedeg o tŷ chi yn y Gogledd (Marford) i tŷ rhieni chi yn Lower Machen.

‘Edrychais i ar y pellter, mae tua pum marathon - felly be am neud pump mewn pump

'A wedodd fy ngwraig, paid â bod mor ddwl!'

Image
Briggitte
Brigette Hughes a'i theulu cyn yr her

Gobaith Huw ydy codi arian i’r elusen Doddie Weir trwy redeg y pellter o Marfod, ger Wrecsam i Lower Machen, Casnewydd.

Dywedodd: "Fel rhywun sy’ ‘di bod ynghlwm gyda rygbi ers o’n i’n plentyn bach, o'dd y ddau peth yn cysylltu yn dda gyda’i gilydd.

"Fi jest yn credu bod e’n cyflwr mor greulon ac un sydd angen codi ymwybyddiaeth amdano fe.

"Does dim lot fawr, yn amlwg ma Rob Burrow a Kevin Sinfield wedi 'neud gymaint i codi ymwybyddiaeth o’r gymuned MND a jest i trio adio tyme bach at hynny."

Ers i Brigette dderbyn ei diagnosis, esboniodd Huw bod y teulu cyfan wedi gorfod ‘dod i’r arfer’ â sut mae’r clefyd yn effeithio ar fywydau pobl.

"Yn wreiddiol gyda MND, dy’ nhw ddim yn gweud yn syth taw hwnna yw beth sydd gyda chi , ond ma’ nhw’n mynd trwy cyfres o pethau eraill.

"Mae jest yn bwrw chi ar adegau wahanol. Mae di cymryd sbel i ni ddod, i’r arfer â’r gofynion ar gyfer e."

Image
Briggitte a'i chiare
Brigette a'i chwaer, Penny

Mae cryfder a dygnwch Brigette wedi bod yn ysbrydoliaeth iddyn nhw i gyd, meddai.

"Ma' hi jest mor positif am bopeth, jest yn brwydro mor galed am bopeth. Ma’r meddylfryd yna sydd gyda hi yn ysbrydoliaeth i mi, yn ddyddiol.

"Os ma unrhyw beth yn mynd bach yn galed fi jest yn meddwl am popeth ma hi yn mynd trwy bob dydd a dyw e ddim byd i gymharu gyda hwnna."

Yn ôl Cymdeithas Clefyd Motor Niwron, mae 5,000 o oedolion yn byw â'r cyflwr ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ar unrhyw adeg

Y risg o berson yn datblygu MND yw un ym mhob 300.

Mae MND yn effeithio ar bawb yn wahanol, a gall y clefyd ddatblygu ar gyflymder gwahanol hefyd, yn ôl y gymdeithas.

Rhai o'r arwyddion mwyaf cyffredin yw:

  • gwendid cyhyrau
  • cymalau tynn
  • Trafferth yn cyfathrebu ar lafar
  • Trafferth yn llyncu, bwyta ac yfed
Image
Brigette a'i theulu

Nid yw Brigette yn gallu cyfathrebu ar lafar bellach ac mae’r ‘dirywiad’ yn ei hiechyd wedi bod yn ‘anodd’ i'w wylio.

‘Odd pethau o'dd hi’n gallu neud tro diwetha' o’n i’n gweld hi, dyw hi ddim yn gallu 'neud tro yma.

‘Mae’n rili anodd i weld rhywun sydd yn rili agos i chi yn mynd trwy hwnna.

‘Timod odd hi’n galluog iawn.  

‘Gallu cal sgyrsiau rili dwfn am lot o bethau gwahanol gyda hi.

‘A hwnna sy’n anodd wedyn.’

‘Ers i hwn ddigwydd, mae mor penderfynol bod hi mynd i neud popeth maen gallu i ymladd hwn.

‘Dyna beth sy'n ysbrydoli fi yn ddyddiol.’

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.