Josh Tarling yn dal yn y Vuelta a España er ei ddamwain ddydd Sul
Mae’r Cymro Josh Tarling yn parhau i gystadlu yn ras seiclo'r Vuelta a España ddydd Llun er iddo gwympo’n galed yn yr ail gymal ddydd Sul.
Fe ddisgynnodd Tarling a Jhonatan Narvaez, hefyd o dîm Ineos Grenadiers, ar ôl taro yn erbyn wal o fewn y ddau gilomedr olaf.
Fe lwyddodd y ddau i godi nôl ar eu beiciau a chwblhau’r cymal heb golli amser.
Dywedodd Ineos Grenadiers nos Sul: “Yn ffodus ni ddioddefodd y ddau unrhyw doriadau ond mae ganddynt grafiadau sylweddol ar eu croen. Byddant yn cael eu monitro dros nos a’u gwirio eto yn y bore, ond ar hyn o bryd mae’n debygol y byddant yn ddigon iach i fynd i ddechrau cymal tri."
Dywedodd Tarling cyn y cymal fore Llun: “Dim ond rasio ydyw. Roedd yn teimlo’n boenus ac rydw i braidd yn stiff ond byddaf yn iawn. Nid yw'n ddim byd difrifol. Byddaf yn iawn ac rwy’n cymryd pob dydd fel y daw.”
Fe ddaeth Tarling yn y chweched safle mewn ras yn erbyn y cloc yng nghymal cyntaf y Vuelta yn Lisbon ddydd Sadwrn.
Dywedodd Tarling ar ôl y cymal ei fod yn teimlo’n “ofnadwy”.
Bydd trydydd cymal y Vuelta, a’r un olaf ym Mhortiwgal, dros 191 cilomedr o Lousã i Castelo Branco ddydd Llun.
Mae’n gymal bryniog ar y cyfan, ond mae'r 40 cilomedr olaf yn wastad a chyflym fydd wrth fodd y gwibwyr.
Llun:X/IneosGrenadiers