Arestio dau ddyn wedi gwrthdrawiad rhwng pedwar car
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gyflawni nifer o droseddau gyrru, wedi gwrthdrawiad rhwng pedwar car yn Sir Caerffili.
Cafodd swyddogion Heddlu Gwent a pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i wrthdrawiad ar ffordd yr A468, ger Trecenydd yng Nghaerffili, tua 19.25 nos Sadwrn.
Fe darodd Kia Sorento arian, Fiat 500 coch, Toyota Yaris glas a Vauxhall Corsa glas yn erbyn ei gilydd.
Cafodd pedwar person eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau.
Mae dyn 68 oed oedd yn gyrru'r Toyota yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Mae gyrrwr a theithiwr y Fiat, a gyrrwr y Vauxhall wedi gadael yr ysbyty.
Cafodd dau ddyn eu harestio ar amheuaeth o nifer o droseddau gyrru, gan gynnwys achosi anaf drwy yrru'n beryglus. Y gred yw eu bod yn y Kia Sorento.
Mae’r ddau ddyn 18 oed o Lanbradach yn Sir Caerffili a Threharris ym Sir Merthyr Tudful, wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad.
Mae swyddogion y llu eisiau siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, ynghyd ag unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd yr A468 i gyfeiriad cylchfan Pwll-y-pant nos Sadwrn.
Gall unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau cylch cyfyng, gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400276111.