Newyddion S4C

Carcharu dyn am ddynladdiad wedi ymosodiad ym Mhorthcawl

19/08/2024
Ymosodiad Porthcawl

Mae dyn 29 oed o Aberdâr yng Nghwm Cynon wedi ei garcharu am 14 o flynyddoedd ar ôl iddo ymosod ar ddyn y tu allan i dafarn ym Mhorthcawl, fis Medi 2023. 

Cafodd Steven Chappell ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ar ôl i'r rheithgor ei gael yn euog o ddynladdiad. 

Bu farw Daniel Bradley, 32, yn yr ysbyty bythefnos wedi'r ymosodiad ger tafarn The Brogden ar 8 Medi. 

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton: “Dioddefodd Daniel ymosodiad treisgar heb iddo bryfocio Steven Chappell o gwbwl. Doedd Daniel ddim yn fygythiad, a digwyddodd ddim oll y noson honno allai gyfiawnhau yr hyn a wnaeth Steven Chappell i Daniel.

“Mae'r achos hwn yn dangos canlyniadau torcalonnus ymosodiadau o'r math hwn. Byddem yn annog eraill i ystyried pa mor hawdd y gall un penderfyniad effeithio ar weddill eich bywyd, a sut y gall ddod â bywyd rhywun arall i ben.

“Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Daniel a'i ffrindiau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.