Newyddion S4C

Tân yn achosi difrod sylweddol i adeilad ar Bier y Mwmbwls

19/08/2024
Tan Pier y Mwmbwls

Cafodd adeilad ar Bier y Mwbwls yn Abertawe ei ddifrodi gan dân yn oriau mân y bore ddydd Sadwrn.

Cafodd chwech o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i'r adeilad sydd yn gartref i'r arcêd ar y pier am 03:51.

Dywedodd y gwasanaeth tân fod y tân yn nho'r adeilad a bod "gwres sylweddol a mwg" wedi achosi difrod i ran fawr o'r adeilad sydd yn mesur 20m x 20m.

Ar ôl diffodd y tân, nid wnaeth y criwiau ddod o hyd i unrhyw fannau lle'r oedd yn bosib y byddai'r tân wedi ailgynnau.

Mae ymchwiliad wedi dod i’r casgliad bod y tân wedi’i achosi’n ddamweiniol.

Llun: Chris Faulder

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.