Pryderon am gais i drin rwbel mewn hen chwarel yn Sir Gaerfyrddin
Mae gwrthwynebydd i safle ailgylchu rwbel mewn chwarel yn Sir Gaerfyrddin wedi annog cynghorwyr i adael i bentrefwyr “fyw’r bywydau rydyn ni wedi dewis eu byw mewn heddwch”.
Gofynnodd Sean Kirwan, o Landybie, i bwyllgor cynllunio’r cyngor sir i wrthod y cais am waith ailgylchu ar gyfer hen chwarel Cilyrychen.
Mae cwmni Dolawen Cyf. am falu a phrosesu deunydd sy'n dod i'r safle chael gwared ar ddeunyddiau sydd wedi'u gadael mewn dwy ran o'r chwarel.
Mae wedi nodi na fyddai cyfanswm y deunydd fyddai'n dod i mewn yn cael ei dynnu allan o'r chwarel yn fwy na 50,000 tunnell y flwyddyn.
Argymhellwyd y cynlluniau i’w cymeradwyo gan swyddogion cynllunio’r cyngor ond dywedwyd wrth y pwyllgor mewn cyfarfod ar 15 Awst fod Llywodraeth Cymru, dim ond dau ddiwrnod ynghynt, wedi hysbysu’r cyngor na allai wneud penderfyniad ffurfiol heb ganiatâd gweinidogol.
'Heddwch'
Wrth annerch y cynghorwyr, dywedodd Mr Kirwan ei fod wedi symud i’r ardal saith mlynedd yn ôl a’i fod wrth ei fodd â’i heddwch a’i thawelwch a harddwch tirwedd Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd ei fod yn rhyddhad pan ddaeth gwaith sment yn yr hen chwarel i ben a bod pobol yn Llandybïe wedi ymateb mewn “arswyd ac anghrediniaeth” pan gyhoeddwyd cynllun gwaith ailgylchu’r chwarel.
Ffurfiwyd grŵp ymgyrchu a chasglwyd deiseb o wrthwynebiad gyda 2,073 o lofnodion.
Roedd Mr Kiwan yn ofni “cynnydd enfawr” mewn symudiadau tryciau, sŵn, llwch a llygredd, ac roedd yn poeni am yr effeithiau posibl ar Ysgol Gynradd Llandybïe o ystyried ei hagosrwydd at yr A483 – y ffordd y byddai cerbydau’n ei defnyddio i gael mynediad i’r chwarel.
Honnodd fod yr adroddiad cynllunio sy’n argymell caniatáu yn “esgeuluso’n llwyr” pryderon trigolion.
“Os gwelwch yn dda achubwch ein pentref a gadewch inni fyw’r bywydau a ddewison ni i fyw mewn heddwch,” meddai.
'Trawsnewid'
Dywedodd gwrthwynebydd arall, Ruth Davies, fod byd natur wedi trawsnewid yr hen chwarel dros y 25 mlynedd diwethaf a bod ecolegwyr a gomisiynwyd gan yr ymgeisydd wedi adnabod “o leiaf chwe chynefin â blaenoriaeth”.
Gofynnodd i gynghorwyr pa lefel o effeithiau negyddol y byddent yn eu hystyried yn dderbyniol, yn enwedig o ystyried bod y cyngor wedi datgan argyfwng natur.
Dywedodd asiant ar ran yr ymgeisydd fod y cynlluniau wedi eu harchwilio'n drylwyr a'u hargymell i'w cymeradwyo, ac nad oedd unrhyw ymgynghorai statudol wedi gwrthwynebu.
Roedd adroddiad y swyddog cynllunio, ychwanegodd, yn “dryloyw, yn gytbwys ac yn wybodus”, gyda materion allweddol “yn cael eu trin yn gynhwysfawr”.
Dywedodd fod y cais “yn cyd-fynd ag ysbryd polisi cynllunio lleol a chenedlaethol”, y gellid sicrhau enillion bioamrywiaeth net, ac y gellid lliniaru effeithiau llwch, sŵn a dirgryniad.
Fe fydd y cais yn cael ei ystyried eto o flaen y pwyllgor ar ôl i gynghorwyr gael cyfle i fynd i'r safle eu hunain.