Y digrifwr Mark Simmons yn cipio'r wobr am jôc orau'r Edinburgh Fringe
Mae’r digrifwr Mark Simmons wedi dweud ei fod “wrth ei fodd” ar ôl i un o’i jôcs gael ei henwi fel y mwyaf doniol yn yr Edinburgh Fringe eleni – ddegawd ar ôl ei ymddangosiad cyntaf yn y digwyddiad.
Cyhoeddodd y sianel deledu U&Dave ddydd Llun enillydd eu 15fed enillydd Joke Of The Fringe mwyaf doniol - ac roedd 15 jôc ar y rhestr fer.
Enillodd Simmons y wobr gyda’i jôc - sydd yn amhosib i'w chyfieithu i'r Gymraeg: “I was going to sail around the globe in the world’s smallest ship, but I bottled it.”
Roedd rhai o feirniaid comedi a digrifwyr mwyaf blaenllaw’r DU ar y panel beirniadu ar gyfer y wobr, sy’n dathlu “y grefft o ysgrifennu jôcs” a gwneud i bobl chwerthin.
Mynychodd y panelwyr gannoedd o sioeau yn ystod y Fringe, cyn cyflwyno eu 10 ffefryn ar restr fer ddienw i atal unrhyw duedd tuag at enwau cyfarwydd.
Yna cynhaliwyd pleidlais gyhoeddus yn cynnwys 2,000 o bobl, gyda Simmons yn dod i'r brig.
Enillodd y jôc 40% o’r bleidlais. Daw hyn ddegawd ar ôl i Simmons berfformio gyntaf yn y Fringe fel act unigol, pan argyhoeddodd ei ffrind ef i gymryd rhan mewn noson meic agored.
Dywedodd Simmons ar ôl ennill y wobr: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill Joke Of The Fringe... Roeddwn angen rhywfaint o newyddion da gan fy mod wedi cael y sac o fy swydd yn marcio papurau arholiadau - dwn i ddim pam - roeddwn bob amser yn rhoi 110%.”