Newyddion S4C

Archwiliadau'r heddlu o blant yn 'sylweddol uwch' gan blismyn yng Nghymru

19/08/2024
Cell

Mae adroddiad newydd yn awgrymu bod cyfradd archwiliadau dadwisgo ('strip searches') o blant yn sylweddol uwch gan heddluoedd Cymru nag yn Lloegr - ond fe allai camgymeriad cofnodi gan un llu Cymreig fod wedi achosi camddehongliad o'r data.

Roedd cyfradd yr archwiliadau dadwisgo o blant yng Nghymru - 1.72 o archwiliadau fesul 10,000 o blant rhwng 10 ag 17 oed - tua chwe gwaith yn uwch na’r gyfradd isaf, yn Sir Efrog a Humberside (0.3 fesul 10,000) am y cyfnod rhwng Gorffennaf 2022 a Mehefin 2023.

Ar gyfer y cyfnod hwnnw, dangosodd data cychwynnol mai Dyfed-Powys oedd yr ardal heddlu â’r gyfradd archwilio uchaf (0.07), ac yna Glannau Mersi a Sir Northampton (y ddau yn 0.04), Durham (0.03) a Suffolk (0.02).

Rhybuddiodd yr awduron y gallai'r wybodaeth am nifer yr archwiliadau yng Nghymru yn rhannol fod o ganlyniad i ansawdd data gwell a dywedodd fod eu dadansoddiad yn rhagdybio bod pob archwiliad yn berthnasol i blentyn gwahanol - pan fo’n bosibl bod rhai plant wedi cael eu harchwilio fwy nag unwaith.

Ond mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud ers hynny bod y data a ddarparwyd ganddynt yn gynharach eleni yn anghywir, ac mai dim ond un archwiliad dadwisgo a gynhaliwyd ar blentyn yn ystod cyfnod yr adroddiad, a fyddai’n effeithio ar y data ar gyfer gweddill Cymru.

Dywedodd y llu: “Rydym yn gresynu bod y camgymeriad hwn yn cael ei wneud, a’r pryder y bydd wedi achosi i’n cymunedau weld ffigwr mor uchel yn gysylltiedig â’n llu.

“Mae adolygiad o’r broses yn cael ei gynnal i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.”

Roedd plant du ar draws y ddwy wlad bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu archwilio o gymharu â ffigurau’r boblogaeth genedlaethol, er bod hyn yn welliant ar y cyfnod 2018-22 pan oeddent chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu harchwilio.

Dywedodd awdur yr adroddiad newydd, y Fonesig Rachel de Souza, Comisiynydd Plant Lloegr, er bod y gwahaniaeth wedi lleihau, mae’r nifer anghymesur o archwiliadau o blant du “yn parhau i fod yn bryder critigol”.

Achosion yn gostwng

Yn gyffredinol, mae'n ymddangos bod nifer yr achosion o archwiliadau dadwisgo gan heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr yn gostwng ond mae methiannau diogelu yn parhau i fod yn broblem, yn ôl adroddiad y Comisiynydd Plant.

Bu 3,368 o archwiliadau dadwisgo o blant gan 44 o heddluoedd – gan gynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydain – rhwng Ionawr 2018 a Mehefin 2023, yn ôl data a ddarparwyd gan heddluoedd i’r comisiynydd.

Dywedodd y Fonesig Rachel de Souza fod ei hadroddiad y cyntaf o’i fath, yn rhoi dadansoddiad cyflawn o noeth-chwiliadau ar gyfer y cyfnod hwn o bum mlynedd a hanner, gan ddefnyddio ei phwerau statudol i ofyn am y data.

Mae adroddiad diweddaraf y Fonesig Rachel yn dangos bod nifer yr archwiliadau – y rhai sy’n datgelu rhannau personol o’r corff – o dan grymoedd stopio a chwilio plant yng Nghymru a Lloegr yn 2022 42% yn is nag yn 2020.

Roedd “gostyngiad sydyn” yng nghyfran yr holl archwiliadau yn Llundain o 2021, gyda “newid trawiadol” rhwng 2018 a Mehefin 2023, meddai’r adroddiad.

Gyda’r adroddiad yn dod yn fuan ar ôl anhrefn mewn rhannau o’r DU, siaradodd y Fonesig Rachel am yr angen i “adeiladu diwylliant o ymddiriedaeth rhwng plant a’r heddlu”, o ystyried “pwysigrwydd hanfodol plismona ymatebol, y gellir ymddiried ynddo".

Mae'r ymchwil diweddaraf yn dangos data ar gyfer Gorffennaf 2022 i Mehefin 2023 am y tro cyntaf.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.