Rhybudd i deithwyr am yr Ŵyl y Banc brysuraf mewn bron i ddegawd
Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i baratoi am yr Ŵyl y Banc brysuraf ar y ffyrdd ym mis Awst ers 2015.
Mae cymdeithas foduro'r RAC yn amcangyfrif y bydd 19.2 miliwn o deithiau yn cael eu gwneud gyda cheir rhwng ddydd Gwener a ddydd Llun nesaf.
Mae disgwyl i ddydd Sadwrn fod y diwrnod prysuraf ar y ffyrdd, gydag amcangyfrif o 3.7 miliwn o deithiau wedi eu cynllunio.
Ychwanegodd yr RAC bod 3.2 miliwn o deithiau yn cael eu hamcangyfrif ar gyfer ddydd Gwener, 3.1 miliwn i ddydd Sul a 3 miliwn i ddydd Llun.
Mae 6.2 miliwn o deithiau ychwanegol hefyd i'w disgwyl ar ryw gyfnod yn ystod y pedwar diwrnod.
Dywedodd llefarydd ar ran yr RAC Alice Simpson: "Gyda diwedd y gwyliau ysgol yn agosáu, mae'n ymddangos mai tripiau diwrnod fydd y prif achos o draffig dros y penwythnos.
"Mae'n debygol mai dyma fydd y Gwyl y Banc prysuraf ar y ffyrdd ym mis Awst ers naw mlynedd, felly mae'n bwysig fod pawb yn sicrhau fod eu cerbyd mewn cyflwr da er mwyn osgoi wynebu torri lawr.
"Os ydych chi'n mynd i ŵyl neu i'r traeth, neu'n cyfarfod ffrindiau a theulu yn rhywle, meddyliwch am y cyngor arferol: gadewch mor gynnar â phosib er mwyn osgoi traffig, neu byddwch yn barod i gael eich dal mewn tagfeydd hir."