Newyddion S4C

Louis Rees-Zammit yn gwella o anaf i chwarae dros y Chiefs

18/08/2024
Louis Rees-Zammit KC Chiefs

Mae’r Cymro Louis Rees-Zammit wedi gwneud ei ymddangosiad cyntaf o flaen torf cartref dros y Kansas City Chiefs.

Mae wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda phencampwyr yr NFL ac wedi bod yn ymarfer a chwarae mewn gemau cyfeillgar er mwyn ceisio hawlio lle yng ngharfan y Chiefs cyn i’r tymor ddechrau fis nesaf.

Roedd disgwyl i gyn-asgellwr rygbi Cymru fethu’r gêm gyfeillgar yn stadiwm Arrowhead yn erbyn y Detroit Lions oherwydd problem gyda’i gefn.

Ond fe ymddangosodd Rees-Zammit mewn sawl safle wrth i’r Chiefs golli o 23-24.

Fe gymrodd Rees-Zammitt gic gyntaf a rhedeg y bêl yn ôl am 27 llathen a hefyd chwarae fel derbynnydd eang.

Dywedodd Rees-Zammit: "Ces i brofi [yr awyrgylch] ychydig bach heddiw. 

"Rwy'n gyffrous am gêm arall yma wythnos nesaf ac yna fe gawn ni weld beth sy'n digwydd.

"Rwy'n gwneud fy ngorau glas. Rwy'n gweithio'n galed yn hyfforddi bob dydd i ddangos yr hyn y gallaf ei wneud."

Gwnaeth Rees-Zammit ei ymddangosiad cyntaf dros y Chiefs yn erbyn Jacksonville Jaguars ddechrau mis Awst.

Mae’r Cymro nawr yn targedu lle yng ngharfan 53-dyn y Chiefs ar gyfer tymor yr NFL, sy’n dechrau yn erbyn Baltimore Ravens ar 6 Medi.

Fe fydd y Chiefs yn cadarnhau eu carfan yn llawn yn dilyn eu gêm gyfeillgar olaf yn erbyn y Chicago Bears ar ddydd Gwener, 23 Awst.

Llun: X/Louis Rees-Zammit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.