Casineb at fenywod i gael ei drin fel 'eithafiaeth' medd Llywodraeth y DU
Bydd casineb at fenywod yn cael ei drin fel math o eithafiaeth o dan gynlluniau newydd gan Lywodraeth y DU.
Mae'r Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper wedi gorchymyn adolygiad o strategaeth gwrth-eithafiaeth y DU er mwyn penderfynu sut i fynd i'r afael â bygythiadau gan ideolegau niweidiol.
Bydd y dadansoddiad yn edrych ar gasineb at fenywod fel un o'r ideolegau sy'n cynyddu yn ôl y llywodraeth.
Dywedodd Ms Cooper fod yna gynnydd mewn eithafiaeth "ar-lein ac ar ein strydoedd".
Bydd yr adolygiad hefyd yn edrych ar y cynnydd mewn eithafiaeth Islamaidd ac asgell dde eithafol yn y DU.
Ychwanegodd Ms Cooper nad yw gweithredu yn erbyn eithafiaeth wedi cael ei flaenoriaethu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd y gwaith yn cyfrannu at strategaeth gwrth-eithafiaeth newydd, a oedd yn rhan o faniffesto'r blaid Lafur.