Nigel Farage yn gwadu ei fod yn cael ei dalu £100,000 y mis gan GB News
Mae Nigel Farage wedi gwadu ei fod yn cael ei dalu bron i £100,000 y mis i gyflwyno sioe ar sianel GB News.
Mae ffigyrau yn dangos fod Mr Farage yn derbyn £97,928.40 am 32 awr o waith y mis.
Byddai'r swm yma yn golygu ei fod yn ennill mwy na miliwn o bunnoedd y flwyddyn, a hynny ar ben ei gyflog fel AS, sef £91,346.
Ond mae AS Clacton bellach wedi dweud fod y swm yma yn cynnwys gwaith sydd wedi ei wneud ers 1 Ebrill ac yn cynnwys gwasanaethau ymgynghorol hefyd.
Dywedodd nad yw'n derbyn ffi misol penodol gan GB News, gan ei fod yn amrywio.
Mewn datganiad ar X, dywedodd Mr Farage: "I fod yn glir...mae'r swm GB News sy'n cael ei dalu i mi yn cynnwys TAW, ac roedd ar gyfer sawl mis o waith.
"Cafodd ei dalu i fy nghwmni, sydd gan dreuliau mawr.
"Ymddiheuriadau i siomi y cyfryngau."
Roedd wedi atal ei sioe deledu GB News, sy’n cael ei darlledu’n wythnosol o ddydd Llun i ddydd Iau, er mwyn canolbwyntio ar yr ymgyrch etholiadol, ond mae bellach wedi dychwelyd i’r sianel.