Newyddion S4C

Josh Tarling yn chweched yn ras y Vuelta a España

17/08/2024
Josh Tarling

Fe ddaeth y Cymro Josh Tarling yn y chweched safle yng nghymal cyntaf ras y Vuelta a España, sydd wedi cychwyn yn Lisbon ddydd Sadwrn.

Roedd y Cymro yn cael ei ystyried gan lawer o wybodusion fel ffefryn ar gyfer y cymal yn erbyn y cloc dros gwrs gwastad o 12 cilometr.

Yn dilyn y siom o golli allan ar fedal yn y Gemau Olympaidd fe ddaeth Tarling, o Ffos y Ffin yng Ngheredigion, wyth o eiliadau tu ôl i enillydd y cymal, Brandon McNulty o’r Unol Daleithiau.

Fe fydd ail gymal y ras ddydd Sul dros 194 cilometr yn y bryniau o Cascais i Ourém.

Dywedodd Tarling ar ôl y cymal ei fod yn teimlo’n “ofnadwy”.

Dywedodd Tarling: “Rwy’n teimlo’n ofnadwy ac yn teimlo mor wael. 

"Rwy' wedi cael trafferth rhwng y Gemau Olympaidd a hyn o safbwynt fy mhen a fy ymarfer. 

"Ro’n i’n teimlo fel bricsen. Dwi ddim yn gwybod beth aeth o’i le ond ro’n i’n teimlo’n drwm.

"Rwy wedi gwastraffu fy nghyfle heddi felly fyddai’n ceisio camu i fyny i helpu’r tîm o hyn ymlaen."

Llun: X/IneosGrenadiers

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.