Annog teithwyr i 'beidio â dod allan o'u ceir' wedi damwain yn Sir Fynwy
Mae Heddlu Gwent wedi annog teithwyr i beidio â dod allan o'u ceir wrth iddyn nhw ddelio gyda damwain yn Sir Fynwy.
Cafodd yr A449 ei chau i'r ddau gyfeiriad yn Sir Fynwy ar ôl y ddamwain brynhawn Sadwrn.
Cafodd y lôn tua'r de ei hailagor am 16:00 ond roedd yn parhau i fod ar gau tua'r gogledd.
Roedd traffig yn llonydd am rai oriau wrth i gerbydau y gwasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent ar y cyfryngau cymdeithasol: "Am resymau diogelwch, a all pawb yr effeithiwyd arnynt aros y tu mewn i'w cerbydau tra bod swyddogion yn gweithio i ddatrys y digwyddiad. Bydd cerbydau brys yn delio gyda’r digwyddiad gan ddefnyddio ffyrdd tua'r gogledd a'r de.
"Mae'r ffordd ar gau o gyffordd 24 yr M4 rhwng Coldra a Brynbuga.
Dywedodd Traffig Cymru: "Mae’r ffordd ar gau ar hyn o bryd. Defnyddiwch lwybr arall os gwelwch yn dda.”