Ymchwiliad ar ôl marwolaeth ‘sydyn ac anesboniadwy’ dyn yn Abertawe
17/08/2024
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth "sydyn ac anesboniadwy" dyn gafodd ei ddarganfod yn anymwybodol ar lwybr rhwng Clwb Rygbi Treforys a Chlwb Pêl-droed Treforys yn oriau mân fore Sadwrn.
Cafodd dyn lleol 34 oed ei gludo i Ysbyty Treforys lle bu farw yn ddiweddarach.
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae cordon heddlu yn ei le ac mae ymholiadau'n parhau.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu cyfeirnod: 2400275446.