Newyddion S4C

Arestio tri bachgen wedi ymgais i ladrata yng Nghaerdydd

17/08/2024
lladrad.png

Mae tri bachgen yn eu harddegau wedi cael eu harestio wedi ymgais i ladrata yng Nghaerdydd. 

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ar hyd Ffordd Newydd a Ffordd Wentloog am 13:00 ddydd Gwener. 

Ychwanegodd y llu fod tri bachgen wedi ceisio dwyn beic modur gan yrrwr JustEat. 

Fe gafodd y tri bachgen, 15, 16 ac 17 oed, eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad. 

Ar hyn o bryd, nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad. 

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400274633.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.