Newyddion S4C

Tesco yn galw un o'u cynnyrch yn ôl yn sgil 'risg llosgi'

17/08/2024
S4C

Mae Tesco wedi galw un o'u cynnyrch yn ôl yn sgil "risg llosgi".

Cafodd math o fyrgyr heb gig sy'n toddi yn y canol ei alw yn ôl, a hynny yn ôl y cwmni oherwydd y gallai "canol y byrgyrs barhau gyda thymheredd uchel ar ôl eu coginio".

Ychwanegodd y cwmni y gallai hynny "arwain at risg llosgi i gwsmeriaid".

Mae cwsmeriaid wedi cael eu hannog i beidio bwyta'r byrgyrs a'u dychwelyd i unrhyw archfarchnad Tesco gan dderbyn ad-daliad llawn.

Does dim angen derbynneb er mwyn derbyn yr ad-daliad yn ôl y cwmni. 

Roedd Tesco yn un o sawl archfarchnad a gafodd eu gorfodi i alw brechdannau yn ôl ym mis Mehefin yn sgil risg E.coli.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.