Trywanu Southport: Cynnal angladd merch chwech oed
Bydd angladd Bebe King, un o'r tair merch fach gafodd eu lladd yn ystod ymosodiad trywanu Southport, yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn.
Bu farw Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed ac Alice da Silva Aguiar, naw oed, yn yr ymosodiad ar Stryd Hart ar 29 Gorffennaf.
Dywedodd rhieni Bebe fod ei chwaer naw oed Genie wedi gweld yr ymosodiad yn digwydd ond ei bod wedi llwyddo i ddianc.
Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd ar gyfer y seremoni a fydd yn cael ei gynnal yn Southport, ac wedi annog pobl i gynnau cannwyll er cof am eu merch am 11:00.
Cafodd Bebe ei disgrifio gan ei rhieni fel "merch annwyl a charedig" a oedd yn "llawn cariad".
Ychwanegodd ei rhieni bod eu merch arall, Genie, wedi dangos "cryfder a dewrder anhygoel".
Cafodd angladd Alice da Silva Aguiar ei gynnal yn Southport ddydd Sul diwethaf.