Y gwasanaethau brys yn ymateb i 'dân mawr' ar safle un o werthwyr ceir mwyaf Cymru
Mae dros 100 o ddiffodwyr tân wedi ymateb i "dân mawr" ar safle un o werthwyr ceir mwyaf Cymru, Ron Skinner and Sons, yn Nhredegar.
Cafodd mwg a fflamau llachar eu gweld yn codi o'r adeilad ar stad ddiwydiannol Tarfarnaubach.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod criwiau wedi gwneud cynnydd da i ddiffodd y tân a chyfyngu ar y difrod i'r adeilad a'r amgylchedd.
Ychwanegodd y gwasanaeth eu bod yn gweithio'n agos gyda Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ymysg eraill.
Bydd ymchwiliad aml-asiantaeth yn cael ei gynnal er mwyn sefydlu union achos y tân yn ôl y gwasanaeth.
Mae aelodau’r cyhoedd wedi cael eu cynghori i osgoi’r ardal, ac aros yn eu tai a chadw ffenestri a drysau ar gau.
Llun: Abigayle Jones