Gwynedd: Menter gymunedol yn cynnal arddangosfa i ddathlu hanner canrif
Mae menter gymunedol yng Ngwynedd wedi cynnal arddangosfa i ddathlu hanner canrif o fodolaeth.
Fe gafodd Antur Aelhaearn ei sefydlu yn Llanaelhaearn ym 1974 yn dilyn ymgyrch i achub ysgol gynradd y pentref.
Er bod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus, roedd trigolion yn teimlo bod rhagor o waith i'w wneud yn y gymuned.
Fel man cychwyn, fe gafodd Cymdeithas y Pentrefwyr ei sefydlu i geisio sicrhau fod Llanaelhaearn yn le mwy deniadol i bobl ifanc.
Yna fe wnaeth Dr Carl Clowes ac Emrys Williams gydweithio i sefydlu Antur Aelhaearn ar ôl cael eu hysbrydoli gan fudiadau yn Iwerddon oedd yn ceisio cynnal cymunedau trwy werthu cynnyrch yn lleol.
Erbyn heddiw, mae gan Antur Aelhaearn tua 180 0 aelodau sy'n cynnal bob math o brosiectau cymunedol.
Ym mis Rhagfyr, fe lwyddodd y fenter i brynu Becws Glanrhyd gyda nawdd o un o gronfeydd y Llywodraeth.
Ac mae cynllun eisoes ar y gweill i ddatblygu Capel y Babell yn gampfa gymunedol.
'Balch'
Fe gafodd arddangosfa Dathlu'r 50 ei gynnal yng Nghanolfan y Babell yn Llanaelhaearn nos Wener.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos lluniau a dogfennau o ddyddiau cynnar y fenter.
Yn ôl Llŷr ap Rhisiart, cadeirydd Cwmni Bro Antur Aelhaearn, roedd hefyd yn gyfle i "addysgu'r genhedlaeth nesaf".
"Rydym yn hynod falch o allu creu arddangosfa i Ddathlu’r 50 ac i addysgu’r genhedlaeth nesaf am gyfraniad arbennig yr Antur i fywyd y pentrefwyr," meddai.
"Tra bod dau sylfaenydd Antur Aelhaearn bellach wedi huno, mae eu gweledigaeth a chenadwri yn parhau i ysbrydoli’r genhedlaeth bresennol ac mae cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill er mwyn cynnal gwead cymdeithasol ac economaidd pentref Llanaelhaearn."
Ychwanegodd: "Ers ei sefydlu rydym yn falch iawn fod yr Antur wedi ysbrydoli cymunedau eraill ar draws Cymru i geisio llywio eu dyfodol trwy sefydlu mentrau cymunedol eu hunain.
"Rwy’n gwahodd trigolion ac ymwelwyr i alw draw i weld yr arddangosfa ac i ddysgu mwy am hanes pentref fach a benderfynodd yn ôl yn 1974 i geisio newid ei dynged ei hun - yn economaidd, cymdeithasol a diwylliannol."