Cyhoeddi diweddariad am ddiflaniad dyn 98 oed o Abertawe
16/08/2024
Mae swyddogion yr heddlu sy’n chwilio am Reginald Rees, 98 oed o Crofty, Abertawe, wedi dod o hyd i gerbyd sy’n cyfateb i’r disgrifiad o gar Mr Rees.
Fe aeth Mr Rees ar goll ddydd Mercher ac mae'r heddlu'n dweud bod y car wedi ei ddarganfod oddi ar arfordir Bae Rhosili.
Mae teulu Mr Rees wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r ymgyrch i chwilio amdano'n parhau yn y lleoliad.